Peirianneg gemegol

Cangen o wyddoniaeth o fewn ffiseg, ac yn benodol thermodynameg, yw peirianneg gemegol. Mae'n cymhwyso'r gwyddorau ffisegol a bywyd ynghyd â mathemateg gymhwysol ac economeg i gynhyrchu, trawsnewid a defnyddio cemegolion. Mae'r gwyddorau ffisegol yn cynnwys ffiseg a chemeg a gwyddorau bywyd yn cynnwys microbioleg a biocemeg. Gwaith y peiriannydd cemegol, mewn gwirionedd, yw cynllunio ar raddfa fawr prosesau sy'n trawsnewid cemegolion, defnyddiau craidd, celloedd byw, micro-organebau ac ynni yn gynnyrch defnyddiol.

Peirianneg gemegol
Delwedd:Chemengg.jpg, Colonne distillazione.jpg
Enghraifft o'r canlynolGwyddoniaeth gymhwysol, cangen o fewn cemeg, pwnc gradd, cangen o beirianneg, disgyblaeth academaidd Edit this on Wikidata
MathPeirianneg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
George E. Davis

Hanes golygu

Tad peirianneg gemegol oedd George E. Davis a ddysgodd y pwnc yng Ngholeg Owens, Manceinion (bellach, Victoria University of Manchester) ac a sgwennodd History of Science in United States: An Encyclopedia yn 1890. Ef hefyd a fathodd y term chemical engineering yn Saesneg.[1][2] Tua'r un pryd, dysgwyd y pwnc yn MIT yn Unol Daleithiau America a hefyd yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL).

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Cohen 1996, t. 174.
  2. Reynolds 2001, t. 176.