Ffigysen yr Hotentot

Carpobrotus edulis
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Planhigyn blodeuol
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Caryophyllales
Teulu: Aizoaceae
Genws: Carpobrotus
Rhywogaeth: C. edulis
Enw deuenwol
Carpobrotus edulis
Carl Linnaeus

Planhigion blodeuol suddlon â dwy had-ddeilen (deuhad-ddeilen neu deugotyledon) yw ffigysen yr Hotentot sy'n enw benywaidd. Gellir bwyta ei ffrwyth melys. Mae'n perthyn i'r teulu Aizoaceae yn y genws Carpobrotus. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Carpobrotus edulis a'r enw Saesneg yw Hottentot-fig. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys ffigysen felen a ffigysen y Penrhyn.

Cynefin gwreiddiol 96% o'r teulu hwn o blanhigion yw de Affrica. Enw'r Iseldirwyr ar y brodorion Khoikhoi o dde-orllewin Affrica yw'r ‘Hotentotiaid’. Ceir blodau 2.5 - 6 modfedd mewn diametr (64 – 152 mm)) ac mae lliw'r C. edulis yn felyn neu binc ysgafn.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: