Sant Celtaidd oedd Ffinan (hefyd Ffinnan Wynin a ffurfiau tebyg: Finan a Finnian of Clonard mewn rhai llyfrau Saesneg) (6g). Gwyddel oedd ef, ond mae ein gwybodaeth amdano yn ei gysylltu â gogledd Cymru a de'r Alban. Mae ganddo ddwy wylmabsant: 14 Medi a 18 Mawrth.

Ffinan
Ganwydc. 470 Edit this on Wikidata
Myshall, Iwerddon Edit this on Wikidata
Bu farw549, 552 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl12 Rhagfyr Edit this on Wikidata
Erthygl am y sant yw hon. Am y bardd canoloesol gweler Crach Ffinant.

Dywedir mai Ffinan a sefydlodd eglwys Llanffinan, ar lannau afon Cefni ym Môn. Daeth yn un o ddisgyblion Sant Cyndeyrn ac ymddengys ei fod wedi astudio neu wasanaethu gyda'r sant yn Llanelwy. Yn y flwyddyn 573 gadawodd Lanelwy am yr Alban gyda'i feistr i wneud gwaith cenhadol yn nhir y Pictiaid.

Yn ogystal â Llanffinan yng Nghymru, fe'i cysylltir â Lumphanan yn Swydd Aberdeen, yr Alban.

Ffynhonnell golygu

  • T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000).

Dolen allanol golygu