Plwyf eglwysig bychan ar Ynys Môn yw Llanffinan. Fe'i lleolir yn rhan uchaf dyffryn afon Cefni yn ne'r ynys, rhai milltiroedd i'r dwyrain o dref Llangefni. Heddiw mae'r plwyf yn rhan o Fywoliaeth Llanfihangel Ysgeifiog, Llanffinan, Llangristiolus a Llangaffo yn Esgobaeth Bangor.[1]

Eglwys Sant Ffinan, Llanffinan.

Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Menai, cantref Rhosyr. Enwir y plwyf ar ôl Sant Ffinan.[2]

Hirdre-faig (enw ffermdy heddiw) oedd y brif ganolfan; yn y dreflan honno roedd yr eglwys. Cofnodir mai Diacon Bangor oedd piau rheithoriaeth Llanffinan, gyda Llanfihangel Ysgeifiog, yn 1535.[3]

Mae Eglwys Sant Ffinan yn dal ar agor a chynhelir gwasanaethau yno ar y Sul.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Eglwys Sant Ffinan[dolen marw]
  2. Melville Richards, 'Enwau lleoedd', Atlas Môn.
  3. A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982), tud. 276.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato