Afon Cefni

afon yn Ynys Môn

Mae Afon Cefni yn un o'r afonydd pwysicaf ar Ynys Môn, Cymru. Ei hyd yw 16.9 km (11 milltir).

Afon Cefni
AfonCefni.jpg
Mathafon Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLlyn Cefni Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2°N 4.4°W Edit this on Wikidata
AberMalltraeth Edit this on Wikidata

Mae Afon Cefni yn tarddu i'r gogledd o bentref Bodffordd yng nghanol yr ynys, a gerllaw Bodffordd mae'n llifo i mewn i Lyn Cefni, cronfa a ffurfiwyd trwy adeiladu argae ar draws yr afon. Wedi gadael y llyn, mae'r afon yn llifo tua'r de-ddwyrain i gyfeiriad Llangefni, lle mae'n llifo trwy ganol y dref. Mae wedyn yn troi tua'r gorllewin ac yn llifo odditan ffordd yr A55 cyn llifo trwy Gors Ddyga. Ym mhentref Malltraeth mae'n pasio trwy lifddorau yn rhan ogleddol y cob i gyrraedd y môr.

LlongGolygu

  Prif erthygl: Afon Cefni (llong)

Cafodd y llong hwyliau Afon Cefni, chwaer-long Afon Alaw, ei henwi ar ôl yr afon.

CyfeiriadauGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato