Leopold II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig

Ymerawdwr Glân Rhufeinig

Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg oedd Leopold II (5 Mai 17471 Mawrth 1792) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1790 i 1792.

Leopold II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Ganwyd5 Mai 1747 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mawrth 1792 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Glân Rhufeinig, brenin Hwngari Edit this on Wikidata
PriodMaria Luisa o Sbaen Edit this on Wikidata
PlantAlbrecht Johann Joseph Erzherzog von Österreich, Maximilian Johann Joseph Erzherzog von Österreich Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Hapsbwrg-Lorraine Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd y Cnu Aur, Order of Saint Stephen Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed yn Fienna, yn drydydd mab i Maria Theresa, Archdduges Awstria, a Ffransis I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Olynodd Leopold ei dad yn Ddug Tysgani yn sgil ei farwolaeth ym 1765, pryd daeth ei frawd hynaf yn Joseff II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Dylanwadwyd ar Leopold gan syniadau'r Oleuedigaeth ac yn ystod ei gyfnod hir yn llywodraethu Tysgani fe ddiwygiodd y cyfundrefnau treth a thariff ac anogodd datblygiad sefydliadau i gynrychioli'r bobl.[1]

Wedi marwolaeth Joseff II yn Chwefror 1790, daeth Leopold yn Archddug Awstria, Brenin Hwngari a Chroatia, a Brenin Bohemia. Ym Medi 1790 fe'i etholwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig ac aeth ati i ddadsefydlu'r wladwriaeth ganoledig a ffurfiwyd gan Joseff II yn y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Yn sgil y Chwyldro Ffrengig (1789), penderfynodd Leopold barhau â pholisïau Joseff o ryddfreinio'r werin a pharchu rhyddid y rhai nad oedd yn Gatholigion i addoli. Yn Awst 1791, fodd bynnag, ymunodd Leopold â Ffredrig Wiliam II, brenin Prwsia, i wrthwynebu'r chwyldro yn Natganiad Pillnitz, gan alw ar arweinwyr Ewrop i achub y frenhiniaeth yn Ffrainc. Roedd brenhines olaf Ffrainc, Marie Antoinette, yn chwaer i Leopold. Yn ei fisoedd olaf bu Leopold yn sicrhau cynghrair milwrol rhwng Awstria a Phrwsia. Bu farw yn sydyn yn Fienna yn 44 oed a fe'i olynwyd gan ei fab Ffransis II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig.[1] Deunaw mis wedi marwolaeth Leopold, dienyddiwyd ei chwaer Marie Antoinette.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Leopold II (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Ebrill 2020.
Rhagflaenydd:
Joseff II
Ymerawdwr Glân Rhufeinig
17901792
Olynydd:
Ffransis II