Ffredrig II, brenin Prwsia

(Ailgyfeiriad o Ffrederic Fawr)

Brenin teyrnas Prwsia o 1740 hyd ei farwolaeth oedd Ffredrig II, a adwaenir hefyd fel Ffredrig Fawr neu ei lysenw der Alte Fritz (24 Ionawr 171217 Awst 1786).

Ffredrig II, brenin Prwsia
Ganwyd24 Ionawr 1712 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
Bu farw17 Awst 1786 Edit this on Wikidata
Potsdam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prwsia, yr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethllywodraethwr, casglwr celf, teyrn Edit this on Wikidata
SwyddPrince-Elector, Brenin Prwsia Edit this on Wikidata
TadFriedrich Wilhelm I o Brwsia Edit this on Wikidata
MamSophie Dorothea o Hannover Edit this on Wikidata
PriodElisabeth Christine o Brunswick-Wolfenbüttel-Bevern Edit this on Wikidata
PerthnasauMargrave Frederick William of Brandenburg-Schwedt, Siôr I, brenin Prydain Fawr, Sophia Dorothea o Celle, Sophie Charlotte o Hannover, Ffredrig I, brenin Prwsia, Friedrich III, Margrave of Brandenburg-Bayreuth, Friedrich Wilhelm II o Brwsia, Margravine Elisabeth Louise of Brandenburg-Schwedt, Sophia o Hannover, Siôr II, brenin Prydain Fawr Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Hohenzollern Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd yr Eryr Du, Order of the White Eagle, Urdd Alexander Nevsky, Urdd Sant Andreas, Pour le Mérite, Urdd Brenhinol y Seraffim Edit this on Wikidata
llofnod
Ffredrig Fawr

Roedd yn aelod o deulu'r Hohenzollern, yn bedwerydd plentyn i Ffredrig Wiliam I, brenin Prwsia a'i wraig Sophia Dorothea o Hannover. Priododd Elisabeth Christine van Brunswijk-Bevern, ond ni chawsant blant, ac olynwyd ef gan ei nai, Ffredrig Wiliam II.

Roedd Ffredrig yn gadfridog disglair, a hefyd yn wladweinydd galluog. Yn Rhyfel Olyniaeth Awstria, cipiodd diriogaeth Silesia, gan gynyddu poblogaeth ei deyrnas o tua 50%. Roedd Maria Theresia, ymerodres Awstria, yn ei gasau oherwydd hyn, a bu hyn yn un o achosion y Rhyfel Saith Mlynedd. Yn wyneb ymosodiadau Awstria a Rwsia, enillodd Ffredrig nifer o fuddugoliaethau syfrdanol, ond gan fod adnoddau Awstria a Rwsia gymaint mwy na'i eiddo ef, roedd ar fin cael ei orchfygu. Achubwyd ef pan fu farw tsarina Rwsia, Elisabeth I yn 1761. Roedd ei holynydd, Pedr III, yn edmygu Ffredrig yn fawr, a gwnaeth gytundeb heddwch ag ef. Wedi i Pedr gael ei lofruddio, olynwyd ef gan Catrin II, oedd hefyd yn gyfeillgar â Ffredrig.

Roedd Ffredrig yn hoff iawn o gerddoriaeth, ac nid yn unig yn noddi cyfansoddwyr ond yn cyfansoddi ei hun. Ei gyfansoddiadau yn cynnwys Der Hohenfriedberger Marsch (c.1745).