Ffredrig II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Roedd Ffrederic II (26 Rhagfyr 1194 – 13 Rhagfyr 1250) yn frenin Sisili o 1198 ymlaen, yn frenin yr Almaen o 1212 ac yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1220 hyd ei farwolaeth.
Ffredrig II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig | |
---|---|
Ganwyd | 26 Rhagfyr 1194 Jesi |
Bedyddiwyd | 1197 |
Bu farw | 13 Rhagfyr 1250 Fiorentino |
Man preswyl | Palermo |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, Kingdom of Sicily |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines, ysgrifennwr, bardd, teyrn |
Swydd | Brenin y Rhufeiniaid, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, King of Jerusalem, Duke of Swabia, Brenin Sisili |
Mudiad | Epicureanism |
Tad | Harri VI |
Mam | Costanza I of Sicily |
Priod | Constance of Aragon, Isabella II of Jerusalem, Isabella o Loegr, Bianca Lancia |
Partner | Bianca Lancia, Adelaide di Urslingen, Ruchina von Beilstein |
Plant | Henry (VII) of Germany, Conrad IV of Germany, Margaret of Sicily, Anna of Hohenstaufen, Manfred, King of Sicily, Enzio of Sardinia, Frederick of Antioch, Frederick of Pettorano, Richard von Chieti, Violante di Svevia, Henry of Hohenstaufen, Jordan of Germany Hohenstaufen, Agnes of Germany Hohenstaufen, Margherita de Svevia, Selvaggia of Staufen, Caterina da Marano |
Perthnasau | Ffredrig I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Roger II of Sicily, Ezzelino III da Romano |
Llinach | House of Hohenstaufen |
Roedd Ffrederic yn fab i'r ymerawdwr Henri VI o deulu Hohenstaufen a Constance o Sisili. O 1222 ymlaen, bu'n ymgyrchu yn erbyn y Mwslimiaid oedd wedi ymsefydlu yn Sisili, gan orfodi pob un nad oedd yn barod i droi at Gristnogaeth i symud i ddinas Lucera.
Yn 1225, priododd Ffrederic Yolande o Jeriwsalem, ac addawodd i'r Pab y byddai'n mynd ar Groesgad. Cychwynnodd yn 1228, wedi iddo gael ei esgymuno am oedi'n rhy hir. Nôd Ffrederic oedd ceisio cael cytundeb diplomatig i ganiatau i Gristnogion ymweld a'r safleoedd sanctaidd. Yn 1229, cytunodd i Heddwch Jaffa gyda Swltan yr Aifft. Ar 12 Mawrth 1229, coronwyd Ffrederic yn Frenin Jeriwsalem. Bu gwrthwynebiad cryf gan arweinwyr y Ffranciaid, a gadawodd Ffrederic Jeriwsalem i ddychwelyd i Sisili.
Gelwid Ffrederic yn Stupor Mundi ("rhyfeddod y byd"). Siaradai chwech iaith: Lladin, Sisileg, Almaeneg, Ffrangeg, Groeg ac Arabeg. Ymddiddorai mewn athroniaeth a gwyddoniaeth, ac ysgrifennodd lyfr ar heboga: De Arte Venandi cum Avibus ("Am y gelfyddyd o hela gydag adar").
Rhagflaenydd: Otto IV |
Ymerawdwr Glân Rhufeinig 1220 – 1250 |
Olynydd: Harri VII |