Ffredrig II, brenin Prwsia
Brenin teyrnas Prwsia o 1740 hyd ei farwolaeth oedd Ffredrig II, a adwaenir hefyd fel Ffredrig Fawr neu ei lysenw der Alte Fritz (24 Ionawr 1712 – 17 Awst 1786).
Ffredrig II, brenin Prwsia | |
---|---|
Ganwyd | 24 Ionawr 1712 Berlin |
Bu farw | 17 Awst 1786 Potsdam |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia, yr Almaen |
Galwedigaeth | llywodraethwr, casglwr celf, teyrn |
Swydd | Prince-Elector, Brenin Prwsia |
Tad | Friedrich Wilhelm I o Brwsia |
Mam | Sophie Dorothea o Hannover |
Priod | Elisabeth Christine o Brunswick-Wolfenbüttel-Bevern |
Perthnasau | Margrave Frederick William of Brandenburg-Schwedt, Siôr I, brenin Prydain Fawr, Sophia Dorothea o Celle, Sophie Charlotte o Hannover, Ffredrig I, brenin Prwsia, Friedrich III, Margrave of Brandenburg-Bayreuth, Friedrich Wilhelm II o Brwsia, Margravine Elisabeth Louise of Brandenburg-Schwedt, Sophia o Hannover, Siôr II, brenin Prydain Fawr |
Llinach | Tŷ Hohenzollern |
Gwobr/au | Urdd yr Eryr Du, Order of the White Eagle, Urdd Alexander Nevsky, Urdd Sant Andreas, Pour le Mérite, Urdd Brenhinol y Seraffim |
llofnod | |
Roedd yn aelod o deulu'r Hohenzollern, yn bedwerydd plentyn i Ffredrig Wiliam I, brenin Prwsia a'i wraig Sophia Dorothea o Hannover. Priododd Elisabeth Christine van Brunswijk-Bevern, ond ni chawsant blant, ac olynwyd ef gan ei nai, Ffredrig Wiliam II.
Roedd Ffredrig yn gadfridog disglair, a hefyd yn wladweinydd galluog. Yn Rhyfel Olyniaeth Awstria, cipiodd diriogaeth Silesia, gan gynyddu poblogaeth ei deyrnas o tua 50%. Roedd Maria Theresia, ymerodres Awstria, yn ei gasau oherwydd hyn, a bu hyn yn un o achosion y Rhyfel Saith Mlynedd. Yn wyneb ymosodiadau Awstria a Rwsia, enillodd Ffredrig nifer o fuddugoliaethau syfrdanol, ond gan fod adnoddau Awstria a Rwsia gymaint mwy na'i eiddo ef, roedd ar fin cael ei orchfygu. Achubwyd ef pan fu farw tsarina Rwsia, Elisabeth I yn 1761. Roedd ei holynydd, Pedr III, yn edmygu Ffredrig yn fawr, a gwnaeth gytundeb heddwch ag ef. Wedi i Pedr gael ei lofruddio, olynwyd ef gan Catrin II, oedd hefyd yn gyfeillgar â Ffredrig.
Roedd Ffredrig yn hoff iawn o gerddoriaeth, ac nid yn unig yn noddi cyfansoddwyr ond yn cyfansoddi ei hun. Ei gyfansoddiadau yn cynnwys Der Hohenfriedberger Marsch (c.1745).