Ffrynt Cenedlaethol Prydain
Plaid wleidyddol Brydeinig, adain dde eithafol yw Ffrynt Cenedlaethol Prydain (Saesneg: British National Front neu'r National Front) sy'n arddel cenedlaetholdeb Prydeinig ac sydd â'i gwreiddiau gwleidyddiol yn yr 1970au a'r 1980au.[1] Yn gyffredinol, fe'i hystyrir yn grŵp hiliol, ac mae gwasanaeth carchar Prydain a gwasanaethau'r heddlu yn gwahardd eu gweithwyr rhag bod yn aelod o'r Ffrynt Cenedlaethol (yn ogystal â'r PGP a Combat 18).[2] Dywed y Ffrynt Cenedlaethol nad plaid Natsïaidd ydyw, fel yr ystyria rhai pobl ac mai mudiad democratiaidd wleidyddiol ydyw. Dywedant eu bod yn credu mewn cyfiawnder cymdeithasol, rhyddfrydiaeth cenedlaethol a galwant am Fesur Seneddol o iawnderau i bawb[3] Dywedant fod y FfC yn gwrthwynebu imperialaeth economaidd a diwylliannol ac y dylai cenhedloedd fod yn rhydd i benderfynu eu cyfundrefnau gwleidyddiol, economaidd a diwylliannol eu hun.'[4] Serch hynny, maent yn parhau i gael eu hystyried fel plaid eithafol ac yn aml gwelir gwrthwynebiad pan sefydlir cangen o'r Ffrynt Cenedlaethol mewn ardal benodol.[5] Gwelir gwrthwynebiad hefyd i orymdeithiau'r Ffrynt Cenedlaethol.[6]
Enghraifft o'r canlynol | plaid wleidyddol |
---|---|
Idioleg | British fascism, neo-fascism, goruchafiaeth y gwynion, goruchafiaeth ethnig |
Dechrau/Sefydlu | 1967 |
Rhagflaenwyd gan | British National Party, Greater Britain Movement |
Olynwyd gan | British Democratic Party |
Rhagflaenydd | League of Empire Loyalists |
Pencadlys | Kingston upon Hull |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://nationalfront.info/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Mae 'National Front' yn cael ei ailgyfeirio i'r dudalen hon. Am fudiadau eraill o'r enw 'Ffrynt Cenedlaethol' gweler y dudalen gwahaniaethu Ffrynt Cenedlaethol.
1960au hwyr: trefniant
golyguRoedd mudiad undod y dde eithafol wedi tyfu yn ystod yr 1960au fel roedd grwpiau yn gweithio'n fwy agos at ei gilydd. Darparwyd ysgogiad gan etholiad cyffredinol 1966 pan orchfygwyd y Blaid Geidwadol a dadleuodd A. K. Chesterton, cefnder y nofelydd G. K. Chesterton a rheolwr o Gynghrair y Teyrngarwyr Imperialaidd, y byddai plaid wladgarol a hiliol wedi ennill yr etholiad.[7] Yn ddiweddarach, siaradodd Chesterton â Phlaid Genedlaethol Prydain yn y 1960au - a oedd wedi trafod ffordd posibl â'r Blaid Ddemocratiaethol Genedlaethol newydd. Cytunodd rhan o Gymdeithas y Gadwedigaeth Hiliol, a reolwyd gan Robin Beauclair, hefyd i gymryd rhan ac felly dechreuodd y FfC ar y 7fed o fis Chwefror, 1967.[8]
Ei bwrpas oedd gwrthwynebu mewnfudiaeth a pholisïau amlddiwyllant Prydain, a chytundebau rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig neu Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd fel newidiadau am gytundebau dwyochrog negodedig rhwng cenhedloedd. Gwaharddodd y grŵp newydd Natsiaid-newydd rhag ymuno â'r blaid, ond ymunodd aeoladau o Fudiad Natsiaid-newydd Prydain Fawr megis John Tyndall fel aelodau unigol.[9] Achosodd hyn i amryw aelodau ymddiswyddo mewn protest, Rodney Legg yn arbennig.
1970au gynnar: twf
golyguTyfodd y Ffrynt Cenedlaethol yn ystod y 1970au ac yr oedd cymaint â 20,000 o aelodau ganddynt yn 1974. Gwnaeth e'n neilltuol iawn yn yr etholiadau lleol gan dderbyn 44% o'r bleidlais yn Deptford, Llundain (â grŵp sgyren), gan bron â churo ymgeisydd Llafur, a enillodd yn unig oherwydd plaidlais yr ysgyren. Daeth yn drydydd mewn tair is-etholiadau seneddol. Mewn un o'r enhreifftiau hwn yn unig- is-etholiad De Newham, 1974 (lle aelod blaenorol o Gynghrair Gomiwynydd Ifainc oedd yr ymgeisydd, Mike Lobb.[10])- curodd y FFC y Ceidwadwyr
Roedd ei sylfaen etholiadol yn cynnwys llawer o weithwyr a phobl hunangyflogedig a oedd yn erbyn gystadleuaeth mewnfudiaeth yn y farchnad neu olwg y mewnfudwyr. Hefyd tynnodd y blaid ychydig o Geidwadwyr dadrithiedig a roddodd llawer o arbenigaeth a pharchedigaeth angenrheidiol. Daeth y Ceidwadwyr yn arbennig o grŵp Clwb Dydd Llun Ceidwadol yn y Blaid Geidwadol a oedd ar sail adwaith gelyniaethus i araith "Wind of Change" ("Gwynt o Newid") Harold Macmillan.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "1975: Ffrynt Cenedlaethol yn atgynllunio yn erbyn Ewrop", BBC, Adalwyd 1 Mawrth 2007
- ↑ Aelodaeth Staff o grwpiau a threfnau hiliol Archifwyd 2011-08-25 yn y Peiriant Wayback, HM Prison Service, 28 Awst 2001. Adalwyd 19 Ionawr 2009
- ↑ "National Front - 100 questions and answers - The Faqs". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-14. Cyrchwyd 2009-03-19.
- ↑ "National Front - Statement of Policy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-02. Cyrchwyd 2009-03-19.
- ↑ Teen plans anti-National Front march Gazette and Herald. Adalwyd 19 Mawrth 2009
- ↑ Pressure to ban National Front march Newyddion y BBC. Adalwyd 19 Mawrth 2009
- ↑ M. Walker, The National Front (Glasgow: Fontana Collins, 1977), t. 58
- ↑ S. Taylor, The National Front in English Politics (London: Macmillan, 1982), tt. 18-19
- ↑ Taylor, The National Front in English Politics (London: Macmillan, 1982), t. 19
- ↑ Election address, Chwefror 1974
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- (Saesneg) Safle'r Ffrynt Cenedlaethol Archifwyd 2015-03-26 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Cyfansoddiad y Ffrynt Cenedlaethol Archifwyd 2011-08-30 yn y Peiriant Wayback