Ffynnon Seiriol, Penmon
ffynnon sanctaidd rhestredig Gradd I yn Llangoed
Mae Ffynnon Seiriol wedi ei lleoli ym Mhenmon ar Ynys Môn.
Math | ffynnon sanctaidd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llangoed |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 32.2 metr |
Cyfesurynnau | 53.3064°N 4.05667°W, 53.306369°N 4.056622°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN062 |
Hanes
golyguMae’r ffynnon wrth ymyl yr Eglwys ac yn fan hyn mae’r adfeilion Cristnogol hynaf ar Ynys Môn. Mae’r ffynnon yn dyddio’n ôl i’r chweched ganrif. Roedd rhai yn meddwl bod y ffynnon yma cyn dyfodiad y sant a bod y Derwyddon yn defnyddio’r ffynnon ac felly roedd fan hyn yn le cysegredig i’r duwiau Celtaidd.
Mae’r dŵr yn treiddio drwy haenau o galchfaen ac roedd y ffynnon yn adnabyddus am ei gallu i iachau.[1]
Fe ddaru deulu Baron Hill, Biwmares godi gorchudd dros y ffynnon ar ddechrau’r 18g. Mae hi bellach yn ffynnon ofuned ac mae ymwelwyr yn dod at y ffynnon i daflu arian ynddi yn y gobaith y gwireddir eu dymuniadau.[1]