Fleetwood
Tref a phlwyf sifil yn Swydd Gaerhirfryn, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Fleetwood.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Wyre. Mae'n gorwedd ar lan Bae Morecambe.
Math | tref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Wyre |
Poblogaeth | 26,226 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerhirfryn (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.925°N 3.015°W |
Cod SYG | E04010589 |
Cod OS | SD333479 |
Cod post | FY7 |
Mae tramffordd yn cysylltu Fleetwood â Blackpool.
Mae Caerdydd 271.3 km i ffwrdd o Fleetwood ac mae Llundain yn 332.2 km. Y ddinas agosaf ydy Caerhirfryn sy'n 20.5 km i ffwrdd.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 29,939.[2]
Hanes
golyguYn ôl Llyfr Dydd y Farn (1086), cantref Amounderness oedd ar ardal adeg hynny, ac yn eiddo i Baron Roger de Poictou, aelod o fyddin y Normaniaid ym 1066. Pan gafodd o ei ddiarddel, rhoddwyd y tir i Theobald Walter, ac yn y pen draw i’r brenin, a gwerthwyd y tir gan Harri VIII yn ystod Diddymu’r Mynachlogydd[3].
Etifeddodd Syr Peter Hesketh stad Rossall ym 1824 a phenderfynodd greu porthladd a chyrchfan wyliau. Gofynnodd y pensaer Decimus Burton i gynllunio'r dref. Agorwyd marchnad ym 1840. Yn yr un flwyddyn, goleuwyd Goleudy Pharos a'r Goleudy Is, cynlluniwyd gan Burton[4]. Ffurfiwyd Rheilffordd Cwmni Rheilffordd, Harbwr a Phorthladd Preston a Wyre, ac agorwyd rheilffordd rhwng Preston a Fleetwood ar 15 Gorffennaf 1840[3]. Adeiladwyd Pier Fleetwood ym 1906, 600 troedfedd o hyd. Agorwyd y pier ym 1911. Llosgwyd y pier ym 1952. Cwblhawyd gwaith trwsio ym 1958.[4]
Adeiladwyd Gwesty North Euston ym 1841, yn hannergylch â olygfeydd dros aber Afon Wyre a Bae Morecambe. Ar y pryd doedd ‘na ddim reilffordd ar arfordir gorllewin Lloegr at Yr Alban, felly cyrhaeddodd teithwyr Fleetwood ar drenau i gymryd cwch i Ardrossan, wedyn ar drên arall i Glasgow. Adeiladwyd rheilffordd i’r Alban ym 1847. Agorwyd Marchnad Fleetwood ym 1840.[3] Cynlluniwyd goleudai Pharos ac Is gan Burton, adeiladwyd ym 1840. Adeiladwyd goleudy’r Wyre gan Alexander Mitchell rhwng 1839 a 1840 ar draethell 2 filltir o’r arfordir.[5] Distrywiwyd y goleudy’n rhannol yn 2017.[6]
Agorwyd cangen reilffordd i Blackpool, yn lleihau’r nifer o deithwyr i Fleetwood.
Pasiwyd deddfau i adeiladu palmentydd a goleuadau. Estynnwyd mordeithiau i Ynys Manaw, Derry, Belfast ac Ardrossan.
Daeth Fleetwood yn un o’r porthladdau pysgota mwyaf ym Mhrydain, yn canolbwyntio ar gegddu. Adeiladwyd y doc ym 1877, yn costio £250,000. Creuwyd porthladd cynhwysydd ar safle’r hen orsaf reilffordd, a dechreuodd gwasanaeth rhwng Fleetwood a Larne dwywaith bob dydd ym 1975. Cymerodd Lein Stena drosodd yn 2004, yn hwylio teirgwaith yn ddyddiol. Daeth y wasanaeth i ben yn 2010, efo colled o 140 o swyddi.
Daeth Doc Wyre yn farina i gychod hwylio ym 1995, ac adeiladwyd canolfan manwerthu a thai ar yr ardal glanio.
Adeiladwyd y tramffordd rhwng Blackpool a Fleetwood yn yr 1890au.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 15 Hydref 2022
- ↑ City Population; adalwyd 15 Hydref 2022
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 Tudalen hanes ar wefan visitfleetwood.info
- ↑ 4.0 4.1 "Gwefan fleetwood-fishing-industry". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-30. Cyrchwyd 2016-05-07.
- ↑ Gwefan engineering-timelines
- ↑ Blackpool Gazette, 26 Gorffennol 2017
Oriel
golygu-
Goleudy Pharos
-
Y goleudy Is
-
Neuadd Marina a Gerddi
-
Machlud haul dros draeth Fleetwood
Dinasoedd
Caerhirfryn ·
Preston
Trefi
Accrington ·
Adlington ·
Bacup ·
Barnoldswick ·
Blackburn ·
Blackpool ·
Brierfield ·
Burnley ·
Carnforth ·
Clayton-le-Moors ·
Cleveleys ·
Clitheroe ·
Colne ·
Chorley ·
Darwen ·
Earby ·
Fleetwood ·
Garstang ·
Great Harwood ·
Haslingden ·
Heysham ·
Kirkham ·
Leyland ·
Longridge ·
Lytham St Annes ·
Morecambe ·
Nelson ·
Ormskirk ·
Oswaldtwistle ·
Padiham ·
Penwortham ·
Poulton-le-Fylde ·
Preesall ·
Rawtenstall ·
Rishton ·
Skelmersdale ·
Whitworth