Frances Abington

actores a aned yn 1737

Roedd Frances (Fanny) Abington (née Barton) (1737 - 4 Mawrth 1815) yn actores a chantores Saesnig.[1]

Frances Abington
GanwydFrances Barton Edit this on Wikidata
1737 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mawrth 1815 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethactor, actor llwyfan Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Fanny Barton mewn tlodi yn crafu byw ar y strydoedd o hofelau o amgylch Drury Lane, Llundain. Roedd ei thad yn cadw stondin crydd mewn marchnad ger Theatr Drury Lane, bu ei mam farw pan oedd hi'n ifanc.[2]

Gyrfa golygu

Roedd Fanny yn gwerthu blodau ac yn canu yn strydoedd Covent Garden o oedran ifanc. Byddai'n mynd ar fyrddau tafarndai Covent Garden, ac yn adrodd darnau o Shakespeare; yn y gobaith byddai'r cwsmeriaid yn taflu ffyrling neu ddwy ati am ei pherfformiad.[3] Mae'n debyg ei bod hi hefyd yn gwneud rhywfaint o buteinio.

Daeth Fanny yn forwyn i felinydd Ffrengig yn Cockspur Street, y cafodd ei blas mewn gwisg a gwybodaeth o Ffrangeg oddi wrtho. Wedi hynny bu'n gwasanaethu fel morwyn cegin. Roedd hi'n benderfynol o addysgu ei hun a gwneud gyrfa ar y llwyfan. Yn ogystal â'r Ffrangeg roedd hi wedi'i ddysgu gan y melinydd, gallai sgwrsio yn Eidaleg hefyd.

Ym 1755 cychwynnodd Theophilus Cibber, rheolwr Theatr yr Haymarket, gwmni o actorion newydd i berfformio drama Susannah Centlivre The Busy Body. Dewiswyd Fanny yn un o'r actorion newydd. Yna bu'n chware nifer o rolau bach ar gyfer dramâu yn Llundain, Caerfaddon a Swydd Efrog. Dychwelodd i Lundain ac ymuno â chwmni Drury Lane, perfformiodd ychydig o gymeriadau eilradd i'r cwmni, ond gorffennodd y tymor fel Lucy yn The Beggar's Opera gan John Gay.

Wedi iddi briodi ym 1759, cafodd ei bilio fel Mrs Abington. Gadawodd Fanny a'i gŵr Drury Lane ar ôl anghytuno â'r rheolwyr, ac aethant i Ddulyn i ymuno â chwmni Brown's. Yn Nulyn cafodd llwyddiant mawr yn chware rhan Lady Townley yn The Provoked Husband gan Colly Cibber a Lucinda yn The Englishman in Paris gan Samuel Foote. Ar ôl pum mlynedd yn Nulyn, ar wahoddiad taer David Garrick, dychwelodd i Drury Lane. Ym 1759. Yn ôl yn Llundain sefydlodd Abington ei hun fel un o brif actoresau comedi ei chenhedlaeth. Ymysg ei rolau comedi mwyaf nodedig oedd: Widow Belmour yn The Way to Keep Him gan Arthur Murphy; Lady Betty Modish yn The Careless Husband gan Colly Cibber; Beatrice yn Much Ado about Nothing; Millamant yn The Way of the World gan Congrev a Miss Walsingham yn The School for Wives gan Hugh Kelly

Ymddeolodd o'r llwyfan ym 1790, gan ddychwelyd yn achlysurol am berfformiadau budd.

Bywyd personol golygu

Ym 1759, priododd Fanny â James Abington, un o drwmpedwyr y brenin; a oedd hefyd yn chwarae yn Drury Lane. Doedd y briodas ddim yn un hapus a gwahanodd y cwpl ychydig ar ôl cyrraedd Dulyn. Cafodd Abington perthynas efo gwleidydd cyfoethog o'r enw Mr Needham.[4] Wedi i Needham marw a gadael ei ffortiwn iddi bu'n feistres i William Petty Ardalydd cyntaf Lansdown.

Marwolaeth golygu

Bu farw Frances Abington yn ei chartref yn Pall Mall yn 78 mlwydd oed, a chladdwyd ei gweddillion ym mynwent St James's, Piccadilly.[1]

Cyfeiriadau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Abington [née Barton], Frances [Fanny] (1737–1815), actress". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/51. Cyrchwyd 2020-10-17.
  2. Thorne, J. O.; Collocott, T. C., gol. (1984). Chambers biographical dictionary. Caeredin: Chambers. ISBN 0-550-16010-8. OCLC 13665413.
  3. J. B. Matthews a L. Hutton, gol., Actors and actresses of Great Britain and the United States from the days of David Garrick to the present time (1886) Cyf 1, tud 191
  4. Philip H. Highfill, Kalman A. Burnim, Edward A. Langhans; A Biographical Dictionary of Actors, Actresses, Musicians, Dancers, Managers