Ieithegwr Almaenig oedd Franz Bopp (14 Medi 1791 - 23 Hydref 1867), a ystyrir yn un o sefydlwyr ieitheg gymharol.

Franz Bopp
Ganwyd14 Medi 1791 Edit this on Wikidata
Mainz Edit this on Wikidata
Bu farw23 Hydref 1867 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prwsia Edit this on Wikidata
Galwedigaethieithydd, addysgwr, academydd, historical linguist Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auVolney Prize, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America Edit this on Wikidata

Ganed Bopp ym Mainz yn 1791. Astudiodd ym Mharis am bedair blynedd dan nawdd llywodraeth Bafaria. Yn 1816 cyhoeddodd ei astudiaeth gyntaf o ramadeg yr Indo-Ewropeg, yr Über das Konjugationssystem der Sanskritsprache in Vergleichung mit jenem der griechischen, lateinischen, persischen und germanischen Sprache, sy'n cymharu gramadeg y ferf yn y Sansgrit gyda berfau'r ieithoedd Groeg, Lladin, Perseg ac Almaeneg ac yn dangos fod ganddynt gwreiddiau cyffredin.[1]

Yn 1821 fe'i apwyntwyd i'r gadair yn y Sansgrit a gramadeg cymharol ym mhrifysgol Berlin. Dyma'r cyfnod a welodd gyhoeddi ei ramadeg cymharol o'r ieithoedd Sansgrit, Zend, Groeg, Lladin, Lithwaneg, Hen Slafoneg, Gotheg ac Almaeneg.[1]

Yn 1839 cyhoeddodd ei astudiaeth Über die keltischen Sprachen sy'n profi bod yr ieithoedd Celtaidd yn perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Er nad ef oedd y cyntaf i awgrymu hynny, mae'r llyfr yn garreg filltir yn natblygiad Astudiaethau Celtaidd.[2]

Bu farw ym Merlin yn 1867.

Llyfryddiaeth ddethol

golygu

Prif waith:

  • Über das Konjugationssystem der Sanskritsprache in Vergleichung mit jenem der griechischen, lateinischen, persischen und germanischen Sprache (Frankfurt am Main 1816)
  • Vergleichende Grammatik des Sanskrit, Zend, Griechischen, Lateinischen, Litauischen, Gotischen und Deutschen (6 cyfrol, Berlin 1833–52)

Traethodau ac astudiaethau eraill:

  • Vocalismus, oder sprachvergleichende Kritiken (Berlin 1836)
  • Über die keltischen Sprachen (Berlin 1839)
  • Über die Verwandtschaft der malaiisch-polynesischen Sprachen mit dem Indogermanischen (Berlin 1841)
  • Über die kaukasischen Glieder des indo-europäischen Sprachstammes (Berlin 1847)
  • Über die Sprache der alten Preußen (Berlin 1853)
  • Vergleichendes Accentuationssystem (Berlin 1854)
  • Über das Albanesische in seinen verwandtschaftlichen Beziehungen (Berlin 1855)

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Chambers Biographical Dictionary
  2. Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Gwasg Boydell, 1997).