Hen Slafoneg Eglwysig

(Ailgyfeiriad o Hen Slafoneg)
Hen Slafoneg Eglwysig (словѣньскъ ѩзыкъ slověnĭskŭ językŭ)
Siaredir yn: Bwlgaria, Macedonia ac fel iaith eglwysig yng ngwledydd Slafig uniongred eraill
Parth: Dwyrain Ewrop
Cyfanswm o siaradwyr: wedi marw; defnyddir fel iaith eglwysig yn unig
Safle yn ôl nifer siaradwyr: dim siaradwyr iaith gyntaf
Achrestr ieithyddol: Indo-Ewropeaidd

 Balto-Slafeg
  Slafeg
   Ddeheuol

Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: yr eglwysi Slafig uniongred
Rheolir gan: neb
Codau iaith
ISO 639-1 cu
ISO 639-2 chu
ISO 639-3 chu
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd

Iaith ysgrifenedig gyntaf y Slafiaid yw Hen Slafoneg Eglwysig neu Hen Slafoneg (hefyd: Hen Fwlgareg, weithiau Hen Facedoneg). Iaith lenyddol yw hi a ddatblygodd ar sail tafodiaith Slafeg Thessaloniki y cenhadwyr Cristnogol, Sant Cyril a Sant Methodius. Defnyddiasant yr iaith ar gyfer eu cyfieithiadau o'r Efengylau a thestunau crefyddol eraill yn ystod eu cenhadaeth ym Morafia ac wedyn yn y tiroedd Slafig deheuol. Ar ôl y cyfnod cynnar, defnyddiwyd fel iaith eglwysig yn yr holl wledydd Slafig uniongred, a datblygodd ar amrywiol ffurfiau yn y gwahanol wledydd gan arwain at fersiynau cenedlaethol gwahanol o Slafoneg Egwlysig. Fe'i defnyddir o hyd fel iaith litwrgi yr eglwysi Slafig uniongred.

Y cenadaethau golygu

Er bod rhai cyfeiriadau amwys at ysgrifennu iaith Slafeg cyn canol y 9g, does dim tystiolaeth bendant i iaith Slafeg gael ei hysgrifennu cyn cenadaethau Sant Cyril a Sant Methodiws i Morafia yng nghanol yr 860au. Aethant yno ar ôl ymbil gan Dywysog Rastislav o Morafia Fawr i'r Ymerawdwr Mihangel III i anfon cenhadon i bregethu i'w bobl. O 863 ymlaen dechreuodd y seintiau a'u disgyblion gyfieithu'r Efengylau, y Salmau a darnau arall o'r Beibl i'w Hen Slafoneg. Gyrrwyd y cenhadon allan o Morafia tua 885 yn sgîl ymryson â chlerigwyr Catholig Almaenig, ond aethant ymlaen â'u gwaith yn y tiroedd Slafig deheuol.

Testunau'r 'canon' Hen Slafoneg Eglwysig golygu

Yn ystod y cenadaethau, cyfieithodd Cyril a Methodiws a'u disgyblion yr Efengylau a nifer o destunau crefyddol eraill i'r Hen Slafoneg o tua 863 ymlaen. Mae'r cyfieithiadau hyn ar glawr heddiw mewn nifer o lawysgrifau diweddarach wedi'u copïo mewn gwahanol wledydd. Mae iaith y testunau hyn yn adlewyrchu nodweddion ieithoedd Slafeg Deheuol gyda chymysgedd o nodweddion yr ieithoedd Slafeg Gorllewinol o Morafia mewn rhai achosion. Maen nhw hefyd yn amrywio i ryw raddau yn ôl iaith yr ardall lle cawsant eu copïo wedyn. Roedd y tafodieithoedd Slafeg yn debygach i'w gilydd yr adeg hynny nag y maen nhw heddiw. Mae'n debyg felly i Cyril a Methodiws ddefnyddio eu tafodiaith Slafeg Ddeheuol fel sail i'r cyfieithiadau gan ei haddasu rywfaint i'r sefyllfa leol. Ysgrifennwyd y testunau cynharach yn yr wyddor Glagolitig, system ysgrifennu a ddyfeisiwyd gan Cyril a Methodiws. Yn gyffredinol, mae'r testunau hwyrach yn tueddu i ddefnyddio'r wyddor Gyrilig.

Dyma'r brif lawysgrifau yn y 'canon' Hen Slafoneg Eglwysig:

  • Codex Assemanianus (ail hanner y 10g neu hanner cynta'r 11eg, Macedonia): llithlyfr o'r Efengylau a nodiadau ar y calendr, wedi'i ysgrifennu yn yr wyddor Glagolitig;
  • Savvina Kniga (11g, Bwlgaria): llithlyfr anghyflawn o'r Efengylau (Cyrilig);
  • Codex Zographensis (diwedd y 10g neu ddechrau'r 11eg, Macedonia): Efengylau (Tetraevangelia) (Glagolitig);
  • Codex Marianus (dechrau'r 11g, Macedonia): Efengylau (Tetraevangelia) (Cyrilig);
  • Psalterium Sinaiticum (11g, Macedonia)
  • Euchologium Sinaiticum (11g)
  • Codex Suprasliensis (11g, Bwlgaria)
  • Glagolita Clozianus (11g, Macedonia)
  • Dalennau Kiev (10eg ganrif): y testun cynharaf mewn unrhyw iaith Slafeg a'r testun Hen Slafoneg Eglwysig sy'n dangos y maint mwyaf o nodweddion Morafaidd.

Enw'r Hen Slafoneg Eglwysig golygu

Mae'r testunau ei hun yn galw'r iaith yn 'Slafoneg' yn unig. Yn ystod y 19g, daeth yn glir bod y llawysgrifau yn cynnwys nifer o nodweddion na cheid ond yn yr ieithoedd Slafeg deheuol, ac, yn arbennig, mewn Bwlgareg. Felly roedd rhai ysgolheigion yn y 19eg a dechrau'r 20g yn galw'r iaith yn 'Hen Fwlgareg'. Ond mae'r term hwn yn awgrymu bod Bwlgareg Modern wedi datblygu'n uniongyrchol o'r iaith honno, a hefyd mae'n anwybyddu'r ffaith bod yr iaith yn cynnwys elfennau nifer o dafodieithoedd Slafeg Deheuol a gorllewinol yn ôl tarddiad y llawysgrifau, ac i'r iaith gael ei defnyddio y tu fewn ac y tu allan o Fwlgaria ei hun. Heddiw dim ond ym Mwlgaria y defnyddir y term 'Hen Fwlgareg'. Yn y gorllewin, y term arferol yw 'Hen Slafoneg Eglwysig', ac yn nwyrain Ewrop 'Hen Slafoneg'.