Gemau Olympaidd Modern
Digwyddiad cystadleuol aml-chwaraeon yw'r Gemau Olympaidd Modern.[1] Cânt eu rhannu yn emau Haf a gemau Gaeaf, a chânt eu cynnal pob pedair mlynedd (sef cyfnod yr Olympiad[2]). Cynhaliwyd y gemau cyntaf yn 1896 yn Athen, Gwlad Groeg. Cynhaliwyd hwy yr un flwyddyn hyd 1992, ond ers hynny maent yn cael eu cynnal dyflwydd ar wahân.
Math o gyfrwng | digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon |
---|---|
Math | cystadleuaeth rhyngwladol, digwyddiad aml-chwaraeon, digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon |
Dechrau/Sefydlu | 1896 |
Rhagflaenwyd gan | Gemau Olympaidd yr Henfyd |
Lleoliad | lleoliad y gemau Olympaidd |
Gwefan | https://olympics.com/en/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Recorwyd y Gemau Olympaidd gwreiddiol (Groegaidd: Ολυμπιακοί Αγώνες; Olympiakoi Agones) yn 776 CC am y tro cyntaf, yn Olympia, Groeg, a dathlwyd hwy hyd 393.[3] Dangoswyd diddordeb mewn adfywio'r gemau am y tro cyntaf gan y golygydd papur newydd a'r bardd Panagiotis Soutsos yn ei bennill "Dialogue of the Dead" yn 1833.[4] Fe noddodd Evangelos Zappas y cynhaliwyd y Gemau Olympaidd Modern rhyngwladol cyntaf yn 1859. Fe ariannodd hefyd adnewyddiad y Panathinaiko Stadium ar gyfer cynnal y gemau yno yn 1870 ac 1875.[4] Nodwyd hyn mewn cyhoeddiadau a phapurau newydd ar draws y byd, gan gynnyws y London Review, a ddywedodd "the Olympian Games, discontinued for centuries, have recently been revived! Here is strange news indeed ... the classical games of antiquity were revived near Athens".[5]
Sefydlwyd Pwyllgor Rhyngwladol Olympaidd (PRhO) yn 1894, ar symbyliad y bonheddwr Ffrengig, Pierre Frédy, Baron de Coubertin. Y gemau cyntaf i gael eu trefnu gan y PRhO oedd Gemau Olympaidd 1896, yn Athen, Groeg. Cynyddodd cyfranogaeth y Gemau Olympaidd i gynnwys athletwyr o bron pob gwlad ar draws y byd, oddigerth i Gymu a'r Alban! Gyda gwelliant yng nghyfathrebu lloerenol a darllediadau byd-eang ar y teledu, mae'r gemau'n ennill cefnogaeth yn gyson.[6] Y gemau diweddaraf oedd 2004 yn Athen, a'r gemau gaeafol diweddaraf oedd Gemau Olympaidd y Gaeaf, 2006 yn Torino. Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 2008 yn Beijing. bydd 302 o gystadleuau mewn 28 o chwaraeon Olympaidd.[7] Mae Gemau Olympaidd y Gaeaf yn cynnwys 84 cystadleuaeth mewn 7 o chwaraeon Olympiadd ers 2006.[8]
Y 5 Cylch
Baron de Coubertin a luniodd y 5 Cylch yn symbol o'r gemau. Mae'r 5 cylch yma'n cyrychioli prif gyfandiroedd y byd sef Asia, Ewrop, Affrica, Amerig ac Oceania.
Cystadlu'n deg
Ar ddechrau pob gemau Olympaidd bydd y cystadleuwyr yn cymryd llw i gystadlu'n deg ac i gadw at yr holl reolau. Mae un cystadleuydd o'r wlad lle cynhelir y gemau yn darllen y llw ar ran gweddill y cystadleuwyr. Gŵr o'r enw Baron de Coubertin, sef sylfaenydd y gemau modern, ysgrifennodd y llw a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf yn 1920.
Amaturiaeth
golyguDatblygodd y syniad o amaturiaeth yn y 19g yn Lloegr fel ffordd o atal y dosbarth gweithiol rhag cystadlu yn erbyn y byddigion. Gallai'r byddigion gymryd rhan mewn chwaraeon heb boeni am ennill bywoliaeth. Nid felly y werin. Byddent yn treulio amser yn ymarfer ac yn dod yn broffesiynol pe baent yn derbyn arian am berfformio. Dros y blynyddoedd newidiwyd y diffiniad o 'amaturiaeth'.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Olympic Games. International Olympic Committee.
- ↑ "Introduction - The Summer Games and Winter Games", The Modern Olympic Games (PDF), International Olympic Committee, tud. tud. 2. URL
- ↑ Ancient Olympic Games. Microsoft Corporation.
- ↑ 4.0 4.1 David C. Young, The Modern Olympics: A Struggle for Revival (Johns Hopkins University Press, 1996), ISBN 0-8018-5374-5
- ↑ London Review, Medi 15, 1860.
- ↑ Olympic Games - Recent Developments. Microsoft® Encarta® Online Encyclopedia 2006. Microsoft Corporation (1997-2006).
- ↑ Beijing 2008: Games Programme Finalised. International Olympic Committee (27 Maerth 2006).
- ↑ Turin 2006. International Olympic Committee.