Gïach bach
Gïach bach Lymnocryptes minima | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Scolopacidae |
Genws: | Lymnocryptes[*] |
Rhywogaeth: | Lymnocryptes minimus |
Enw deuenwol | |
Lymnocryptes minimus
| |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Gïach bach (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: gïachod bach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Lymnocryptes minimus; yr enw Saesneg arno yw Jack snipe. Mae'n perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn L. minimus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia, Ewrop ac Affrica.
Teulu
golyguMae'r gïach bach yn perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Gïach Japan | Gallinago hardwickii | |
Gïach Madagasgar | Gallinago macrodactyla | |
Gïach Swinhoe | Gallinago megala | |
Gïach brongoch | Limnodromus griseus | |
Gïach cynffonfain | Gallinago stenura | |
Gïach gylfinhir | Limnodromus scolopaceus | |
Gïach mynydd y Gogledd | Gallinago stricklandii | |
Gïach unig | Gallinago solitaria | |
Pibydd Twamotw | Prosobonia cancellata |
Adnabod
golyguHawdd adnabod y gïach bach tra'n bwydo allan. Mae'n llai na gïach (tua 2/3 ei faint). Roedd y pig tua un hyd a hanner y pen (mae pig gïach cyffredin uwchben dwywaith hyd y pen). Hefyd bydd yn bownsio i fyny ac i lawr ar ei sodlau mewn modd digri. Yr olwg mwyaf arferol yw wrth godi'r aderyn o lan pwll bychan wrth i chi fod ar fin sathru arno. Mae hyn yn wahanol i'r gïach cyffredin sydd fel petai â llai o ffydd yn ei gudd-liw ac yn codi nifer fawr o fedrau i ffwrdd. Mi hedfanith y gïach bach yn eitha syth ac isel gan lanio nid yn rhy bell i ffwrdd - heb alw o gwbl. Mae'r giach yn codi gan alw yn swnllyd wrth igam-ogamu i'r entrychion a glanio yn bell iawn i ffwrdd.[3]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
- ↑ Rhys Jones ym Mwletin Llên Natur rhifyn 70