Gŵyl ddiwylliannol yw Gŵyl AmGen sy’n bartneriaeth rhwng BBC Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol. Fe'i datblygwyd yn sgil y pandemig coronafirws yn 2020 a olygodd fod Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020 wedi ei gohirio yn wreiddiol tan y flwyddyn ganlynol.[1] Datblygodd yr ŵyl y flwyddyn ganlynol gyda Eisteddfod AmGen 2021, gydag Eisteddfod Tregaron yn cael ei gynllunio i gael ei gynnal yn flwyddyn 2022.[2]

Gŵyl AmGen 2020
Enghraifft o'r canlynolgŵyl ddiwylliannol Edit this on Wikidata
Logo Gŵyl AmGen

Cynhaliwyd yr ŵyl rhwng 30 Gorffennaf a 2 Awst, gyda rhaglenni a chynnwys ar draws BBC Radio Cymru, BBC Radio Cymru 2 a BBC Cymru Fyw.

Yn ystod y digwyddiad cyhoeddwyd enillydd gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020, sef Ifan Morgan Jones gyda'r nofel Babel. Hefyd cyhoeddwyd enillydd Albwm Cymraeg y flwyddyn, sef Ani Glass - Mirores.

Cystadlaethau golygu

Stôl Farddoniaeth golygu

Yr her oedd ysgrifennu darn o farddoniaeth gaeth neu rydd rhwng 24 a 30 llinell ar y testun Ymlaen. Y beirniaid oedd yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd a Mererid Hopwood.

Yr enillydd oedd Terwyn Tomos, cyn-athro yn wreiddiol o Glydau, Sir Benfro ac sydd nawr yn byw yn Llandudoch. Roedd ei gywydd buddugol, dan y ffugenw 'Pererin', yn trafod ei filltir sgwâr a’i gymuned yng Nghwm Degwel wrth iddo ddod i werthfawrogi'r hyn sydd o dan ei drwyn.[3] Roedd 34 o ymgeiswyr ac yn ail yn y gystadleuaeth oedd Morgan Owen, gydag Elan Grug Muse a Llŷr Gwyn Lewis yn gydradd drydydd.[4]

Stôl Ryddiaith golygu

Yr her oedd ysgrifennu darn o ryddiaith hyd at 500 gair ar y testun Gobaith. Y beirniaid oedd Manon Steffan Ros a Guto Dafydd.

Yr enillydd oedd Llŷr Gwyn Lewis o Gaernarfon yn wreiddiol (bellach yng Nghaerdydd). Roedd ei waith, o dan y ffugenw Claf Abercuawg, yn stori fer sy'n sôn am gyfrif Twitter lle mae'r byd rhithiol yn plethu gyda'r byd go iawn. Roedd 67 wedi ymgeisio - yn ail oedd Iwan Teifion Davies o Landudoch, ac yn drydydd oedd Elen Jones o Ddinbych.[5]

Dysgwr y Flwyddyn golygu

Roedd hon yn gystadleuaeth ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol, BBC Radio Cymru a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Y beirniaid oedd Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Aran Jones, cyd-sylfaenydd SaySomethingInWelsh a Dona Lewis, dirprwy brif weithredwr a chyfarwyddwr cynllunio a datblygu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Yr enillydd oedd Jazz Langdon, athrawes 27 oed o Arberth, Sir Benfro. Roedd pedwar arall ar y rhestr fer, sef Mathias Maurer, Siân Sexton, Elisabeth Haljas a Barry Lord. Cafodd y pump eu cyfweld gan Shân Cothi ar BBC Radio Cymru.[6]

Llywyddion golygu

  • Dydd Gwener, 31 Gorffennaf – Toda Ogunbanwo o Benygroes. Soniodd am hiliaeth yng Nghymru gan ddweud nad yw dioddefwyr yn siarad digon am eu profiadau.[7]
  • Dydd Sadwrn, 1 Awst - Seren Jones o Gaerdydd. Dywedodd fod angen i'r Cymry beidio bod mor "amddiffynnol" am eu hunaniaeth ac yn fwy agored i groesawu pobl o bob lliw a llun.[8]
  • Dydd Sul, 2 Awst - Josh Nadimi sy'n wreiddiol o Lantrisant ac sy'n llawfeddyg yn Ysbyty Prifysgol Caerdydd. Trafododd yr "anghyfartaledd iechyd" sydd yn effeithio ar bobl o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig a'r pwysau trwm ar weithwyr iechyd yn ystod y cyfnod diweddar.[9]

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyhoeddi dwy brif gystadleuaeth Gŵyl AmGen Radio Cymru , BBC, 4 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd ar 31 Gorffennaf 2020.
  2. "Gohirio Eisteddfod Genedlaethol Tregaron eto nes 2022". BBC Cymru Fyw. 2021-01-26. Cyrchwyd 2021-08-05.
  3. Cyn-athro o Sir Benfro yn ennill Stôl Farddoniaeth y Steddfod AmGen , Golwg360, 1 Awst 2020.
  4. "Terwyn Tomos yw enillydd Stôl Farddoniaeth Gŵyl AmGen". BBC Cymru Fyw. 2020-07-31. Cyrchwyd 2020-07-31.
  5. Llŷr Gwyn Lewis yw enillydd Stôl Ryddiaith Gŵyl AmGen 2020 , BBC Cymru Fyw, 1 Awst 2020.
  6. Jazz Langdon yw enillydd cystadleuaeth Dysgwr yr Ŵyl AmGen , BBC Cymru Fyw, 1 Awst 2020.
  7. Araith Llywydd y Dydd: Toda Ogunbanwo , BBC Cymru Fyw, 31 Gorffennaf 2020.
  8. Cymuned Cymru'n rhy 'amddiffynnol o'i hunaniaeth' , BBC Cymru Fyw, 1 Awst 2020.
  9. BAME: Angen taclo ‘anghyfartaledd’ ym maes iechyd , BBC Cymru Fyw, 2 Awst 2020.

Dolenni allanol golygu