Gŵyl Gomedi Machynlleth

Mae Gŵyl Gomedi Machynlleth (neu Machynlleth Comedy Festival) yn ddigwyddiad gomedi sy'n cynnwys comedïwyr Saesneg a Chymraeg eu hiaith yn perfformio mewn lleoliadau ar hyd tref Machynlleth. Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf ym mis Mai 2008.

Gŵyl Gomedi Machynlleth
Enghraifft o'r canlynolgŵyl gomedi Edit this on Wikidata
Tudur Owen yn perfformio yn y Tabernacl, Gŵyl Gomedi Machynlleth, 2023

Sefydlu golygu

 
Rhod Gilbert

Cynhaliwyd Gŵyl Gomedi Machynlleth am y tro cyntaf ym mis Mai 2009. Fe'i cynhyrchir gan gwmni Little Wander.

Mae'r Ŵyl yn canolbwyntio’n bennaf ar sioeau o waith ar y gweill mewn lleoliadau dros dro yn barod am Ŵyl Caeredin.

Ers 2010 mae'r Ŵyl wedi tyfu o 30 sioe yn denu 500 o ymwelwyr i’n digwyddiad yn 2018 gyda 250 o berfformiadau a chynulleidfa o dros 7,000![1]

Mae'r diddanwyr wedi cynnwys rhai o enwogion byd comedi iaith Saesneg. Ceir hefyd gigs comedi yn y Gymraeg gan berfformwyr megis Elis James, Tudur Owen, Steffan Alun, Steffan Evans, Dan Thomas, Calum Stewart, a Esyllt Sears.

Ymysg yr enwogion Saesneg bu; Mark Watson, Joe Lycett, Rhod Gilbert a llawer mwy.

Ar raglen ar BBC Radio 6, disgrifiwyd yr Ŵyl gan y comedïwr Nish Kumar fel "the comedy fans comedy festival"

Yn 2018 cafwyd partneriaeth gyda'r Ŵyl a BBC Radio Wales.[2]

Lleoliadau golygu

Cynhelir yr ŵyl mewn gwahanol leoliadau ar draws tref Machynlleth gan gynnwys lawnt Y Plas, Clwb Bowlio Machynlleth, Clwb Rygbi Machynlleth, Canolfan Owain Glyndŵr, Ysgol Bro Hyddgen a Gwesty'r Wynnstay.

Gŵyl Gomedi Aberystwyth golygu

Ym mis Hydref 2018 lansiwyd Gŵyl Gomedi Aberystwyth gan yr un trefnwyr. Ond pwysleisiwyd na fyddai hyn yn tanseilio'r digwyddiad ym Machynlleth.[1] Nodwyd bod y digwyddiad yn Aberystwyth ar gyfer sioeau gorffenedig, yn barod i fynd ar daith mewn lleoliadau perfformio ac sydd eisoes yn bodoli eisoes.

Nodwyd, "Byddwn yn dathlu ein pen-blwydd yn 10 oed ym Mach yn 2019 ac yn edrych ymlaen at ddod â’r digwyddiad i’r dref am flynyddoedd lawer i ddod."[1]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu