Esyllt Sears

actores

Mae Esyllt Mair Sears (ganwyd Mawrth 1981) yn gomedïwr ac ymgynghorydd busnes. Magwyd hi ym Mhenrhyn-coch a Bow Street, Ceredigion[1] ac mae bellach yn byw ym Mro Morgannwg.

Esyllt Sears
GanwydEsyllt Mair Dafydd Edit this on Wikidata
Mawrth 1981 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethacademydd, llenor, digrifwr stand-yp Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Magwyd Esyllt Mair Dafydd ym mhentref Bow Street, gan fynychu Ysgol Gynradd Rhydypennau ac Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yn Aberystwyth. Enillodd radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n briod a chanddi ddau o blant. Symudodd hi a'i gŵr, sy'n ddi-Gymraeg, o Lundain i Gymru fel bod modd magu'r plant yn Gymraeg ac iddynt dderbyn addysg Gymraeg, sy'n "bwysig iawn" iddi.[2] Mae'n ferch i'r awdur Elgan Philip Davies sydd wedi ysgrifennu amryw o lyfrau gan gynnwys llyfrau i blant ac arddegwyr.

Mae'n ddarlithydd rhan amser yn Athrofa Busnes a Chymdeithas Prifysgol De Cymru a gyda Prifysgol Fetropolitan Caerdydd trwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus.[3]

Mae hi hefyd yn golofnydd i bapur misol Y Cymro.[3]

Gyrfa Comedi

golygu

Daeth ar restr 'Rhai i'w Gwylio' menywod mewn comedi (allan o 400 o gomediwragedd eraill) yng nghystadleuaeth Funny Women yn 2017.[4] Mae'r gystadleuaeth yno i geisio hybu rhagor o fenywod i fentro i fyd comedi.

Ers hynny mae wedi gwneud setiau comedi yn Sesiwn Fawr Dolgellau 2018 gyda pherfformwyr eraill megis Hywel Pitts a Jâms Thomas.[5] yn Eisteddfod Caerdydd lle bu'n rhan o'r gig gomedi gyntaf gan ferched yn unig yn y Gymraeg, ac yn ei thref enedigol, Aberystwyth [6] ac fel rhan o Ŵyl Gomedi Aberystwyth a sesiynau comedi yn Lloegr.

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu