Tudur Owen
Actor, digrifwr, cyflwynydd teledu a radio, ymgyrchydd[1] ac awdur o Gymru ydy Tudur Owen (ganed Mai 1967)[2].
Tudur Owen | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mai 1967 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, cyflwynydd radio, cyflwynydd teledu, digrifwr |
Bywyd cynnar
golyguCafodd Tudur ei eni ar Ynys Môn. Ei rieni oedd y ffarmwr a dyn busnes Iolo Owen, Trefri (1931-2024) a Gwyneth.[3] Roedd yn un o pump o blant a fagwyd yn Nhrefri, un o ffermydd mwyaf stad Bodorgan.[4]
Gyrfa
golyguDechreuodd berfformio comedi ar ei sefyll trwy gyfrwng y Gymraeg yn 1999.[5]
Mae Tudur wedi ymddangos ar nifer o raglenni comedi ac adloniant S4C yn cynnwys Gwefreiddiol, Gwerthu Allan, Mawr a Noson Lawen.[6]. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer rhaglenni fel Y Rhaglen Wirion ‘Na, Craig Ac Eifion, Teledu Eddie a Wil a Cêt.[7]
Yn 2009 fe gafodd gyfres sioe sgwrsio Tudur o'r Doc a oedd yn cael ei ffilmio yn Galeri, Caernarfon. Fe ddaeth y sioe 'nôl gydag ychydig o newidiadau a theitl newydd Sioe Tudur Owen yn 2011.[8][9]
Yn 2016 cyflwynodd raglen ddogfen Tudur Owen a'i Gwmni Pysgod oedd yn dilyn Tudur wrth geisio ail-gyflwyno modd o brynu pysgod ffres o'r Fenai yn siopau lleol Porthaethwy. Dilynwyd hyn gan gyfres lawn yn 2017 yn edrych ar sut i greu busnesau sy'n cynhyrchu a gwerthu yn y gymuned leol.[10]
Mae ganddo sioe ar brynhawn ddydd Gwener ac ar fore Sadwrn ar Radio Cymru.
Roedd yn berchen ar fusnes Tŷ Golchi sy'n cynnwys caffi, siop a chlwb comedi. Fe brynodd yr adeilad sydd wedi ei leoli rhwng Bangor a Chaernarfon a fe agorwyd y busnes ym mis Ionawr 2012.[11]
Bywyd personol
golyguYm mis Hydref 2014, cafodd Tudur ddiagnosis o gancr y brostad a chyhoeddodd hyn ar ei sioe ar Radio Cymru. Derbyniodd lawdriniaeth yn Clatterbridge i waredu'r cancr, nad oedd wedi lledu. Ers hynny, mae Tudur yn ymgyrchu ac annog dynion i fod yn fwy ymwybodol o'r cyflwr.[12] Mae'n byw yn Y Felinheli gyda'i wraig Sharon ac mae ganddynt ddau blentyn.[13]
Ar 5 Gorffennaf 2022, fe'i anrhydeddwyd gan Brifysgol Bangor am ei gyfraniad i adloniant yng Nghymru. Derbyniodd radd Doethur mewn Llenyddiaeth a’i urddo gyda Gradd er Anrhydedd.[14]
Teledu
golygu- Sioe PC Leslie Wynne – comedi sefyllfa [2008-2009]
- Tudur o'r Doc – sioe siarad [2009]
- Sioe Tudur Owen – sioe siarad [2012-2015]
- Byw Yn Ôl Y Llyfr – rhaglen ddogfen hanesyddol [2010-2011]
- Byw Yn Ôl Y Papur Newydd – rhaglen ddogfen [2011]
- Beryl, Cheryl a Meryl – drama gomedi [2009]
- Tudur Owen a'r Cwmni – rhaglen ddogfen [2016-]
- Tourist Trap – rhaglen gomedi sefyllfa, BBC Wales [2018][15]
- Tudur's TV Flashback – rhaglen gyda deunydd archif, BBC Wales [2019-][16]
Llyfryddiaeth
golygu- Dangos Fy Hun, Hydref 2011, Gwasg Gwynedd, ISBN 9780860742760
- Y Sw, Hydref 2014, Gwasg Carreg Gwalch, ISBN 9781845274832
Gwobrau
golygu- Enillydd BAFTA Cymru 2009 – Sioe Adloniant Orau – Sioe PC Leslie Wynne (Ysgrifennwr/ Perfformiwr)
- Enwebiad BAFTA Cymru 2010 – Sioe Adloniant Orau – Tudur Owen O’r Doc (Cynhyrchydd/Perfformiwr)
- Enwebiad BAFTA Cymru 2010 – Cyflwynydd Gorau
- Gwyl Cyfryngau Celtaidd 2009 – Rhaglen Adloniant Ysgafn Orau – Tudur Owen O’r Doc (Cynhyrchydd/Perfformiwr)
- Enwebiad Royal Television Society 2011 - am “Wil & Cêt”
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Eryl Crump (05.03.2015). Comedian Tudur Owen is 'sinning' across Wales. Daily Post. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2015.
- ↑ Cofnod cyfarwyddwr Ty'r Cwmniau; Adalwyd 5 Rhagfyr 2016
- ↑ Y ffermwr a'r dyn busnes o Fôn, Iolo Trefri, wedi marw. BBC Cymru Fyw (27 Chwefror 2024).
- ↑ Cefn Gwlad i ddathlu bywyd Iolo Trefri, tad Tudur Owen y digrifwr poblogaidd. Golwg360 (16 Gorffennaf 2022).
- ↑ (Saesneg) Comedy CV - Tudur Owen. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2015.
- ↑ Gwerthu Allan
- ↑ "CV Regan Management". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-30. Cyrchwyd 2015-07-29.
- ↑ Tudur Owen o'r Doc
- ↑ Anglesey's Tudur Owen prepares for new TV series
- ↑ Tudur Owen yn dod â marchnad bysgod 'nôl i Borthaethwy , 30 Ebrill 2016. Cyrchwyd ar 26 Ebrill 2017.
- ↑ Tudur Owen and Ty Golchi - now open
- ↑ (Saesneg) Hywel Trewyn (12 Mawrth 2015). Gwynedd comedian Tudur Owen urges men to get checked after having prostate removed. Daily Post. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2015.
- ↑ My favourite room: Comedian Tudur Owen , WalesOnline, 31 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd ar 26 Ebrill 2017.
- ↑ Y digrifwr a'r darlledwr Tudur Owen yn dod yn Ddoethur mewn Llenyddiaeth. Prifysgol Bangor (5 Gorffennaf 2022). Adalwyd ar 5 Gorffennaf 2022.
- ↑ "BBC - A month of comedy comes to BBC Wales - Media Centre". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 9 Mawrth 2020.
- ↑ "Tudur's TV Flashback". British Comedy Guide. Cyrchwyd 11 Awst 2020.