Dan Thomas
Digrifwr yw Dan Thomas (ganed yn 1980) sy'n perfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'n arbenigo mewn comedi stand-yp ond mae hefyd yn ysgrifennu dramâu ac yn perfformio mewn meysydd eraill.
Dan Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 1980 Abertawe |
Man preswyl | Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | digrifwr stand-yp |
Gwefan | http://www.danthomascomedy.com/ |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Dan yn 1980 a magwyd ef yn Abertawe gan fynychu Ysgol Gyfun Gŵyr - mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.[1] Yn ôl ei set llwyfan, magwyd ef mewn teulu cenedlaetholaidd iawn oedd yn cefnogi Cymru annibynnol a mudiadau gweriniaethol. Mae'n gefnogol iawn i'r Gymraeg ac yn perfformio setiau yn yr iaith.[2] Mae hefyd wedi cymryd rhan yn nosweithiau comedi Stand Up For Wales a drefnir gan fudiad Yes Cymru. Er hyn, dydy ei set ddim yn dueddol o fod yn or-wleidyddol.
Gyrfa
golyguDechreuodd berfformio comedi stand-yp yn 2005 gan ddod yn gomedïwr llawn amser yn 2010.[3]
Cyrhaeddodd rownd derfynol y Welsh Unsigned Stand Up Awards 2010 a gwobrau cylchgrawn 'Loaded' y LAFTAS 2010. Ef oedd enillydd cyntaf erioed cystadleuaeth Dog Eat Dog Stand Up De Cymru.
Mae wedi perfformio ar draws Prydain mewn lleoliadau bri-uchel megis, y Glee Club, Highlights, The Comedy Store, Komedia ac mewn amryw o ŵyliau comedi gan gynnwy Gŵyl Gomedi Machynlleth a Gŵyl y Green Man.
Yn 2011, dewiswyd Dan i gefnogi Russell Kane ar ei daith Brydeinig gyda sioe enillydd Gwobr Perrier, "Smokescreens and Castles" ac ar daith arall Russell, "Manscaping".
Mae wedi perfformio yn y Gymraeg mewn nosweithiau gyda comedïwyr eraill fel Phil Cooper [4], ar gyfres gomedi Gwerthu Allan ar S4C, ar Radio Cymru ac ym Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol.[5]
Teledu
golygu- Deal or No Deal - gweithio fel artist 'twymo'r tŷ' sy'n cael cynulleidfa mewn hwyliau da cyn dechrau ffilmio rhaglen, ar gyfer sawl sioe
- Houseguest - ar ITV
- Funny Business ar BBC Wales
- Gwerthu Allan - cyfres 2 ar S4C [6]
Radio
golygu- The Rhodri Williams Show - ar BBC Radio Wales
- What's The Story? - cynhyrchiad BBC Radio Wales/Tidy Productions).
- Chaos at the Glee Club (Goldrush Productions)
- The World of Acting (Clare Sturges Productions)
Llwyfan
golyguMae wedi ysgrifennu drama And The Killer Is... a oedd yn sioe a werthodd bob tocyn yn 2010.
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.walesonline.co.uk/whats-on/comedy-news/behind-mic-throwing-spotlight-best-7680147
- ↑ http://www.buzzmag.co.uk/uncategorized/dan-thomas-interview/
- ↑ http://www.comedycv.co.uk/danthomaswelsh/
- ↑ https://www.facebook.com/events/338828113199249
- ↑ https://www.glee.co.uk/performer/dan-thomas/
- ↑ https://www.bbc.co.uk/programmes/p02sv4w5