Steffan Evans (comedi)

Digrifwr o Gymro

Comedïwr a diddanwr yn y Gymraeg a'r Saesneg yw Steffan Evans (ganwyd 1981). Magwyd ef yn Eglwyswrw yn Sir Benfro. Mynychodd Ysgol y Preseli, yng Nghrymych.

Steffan Evans
Ganwyd1981 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdigrifwr stand-yp Edit this on Wikidata

Dechreuodd Steffan ei yrfa comedi ym mis Tachwedd 2015.[1] Mae'n perfformio mewn nosweithiau meic agored i sesiynau mewn sioeau proffesiynnol ar draws Cymru a thu hwnt.

Bu'n berfformiwr cynorthwyol i Elis James ar ei daith yn 2017. Mae hefyd wedi teithio gyda sioe ar y cyd gyda Drew Taylor a Col Howard, Tales from Wales yn 2016-17. Mae wedi perfformio mewn sawl gŵyl gomedi gan gynnwys, Gwyliau Comedi: Machynlleth Caerdydd (2016), Castell Nedd (2016-17), Caerlŷr (Leicester, 2017), Caerfaddon (2017), Llwydlo (Ludlow, 2017), Merthyr Tudful [2] ac Aberteifi. Mae hefyd wedi perfformio mewn sesiynau comedi, Stand Up For Wales.

Teledu

golygu
  • Gwerthu Allan, S4C
  • O'r Diwedd, S4C. Sioe ddychan diwedd y flwyddyn
  • Sesh, eitemau byr ar-lein gan BBC Wales [3]
  • The Jamie Owen Show, BBC Wales
  • The Rhod Gilbert Show, BBC Wales. Cyflwynydd gwadd.

Cystadlaethau

golygu
  • Ffeinalist - Welsh Unsigned Stand Up Award 2016 [4]
  • Ffeinalist - Stand up for Cider (Submarine Comedy) - 2017

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu