Gŵyl yr Urdd, 2001

Gŵyl a gynhaliwyd mewn dau stiwdio deledu gan yr Urdd yn 2001 oherwydd i Glwy Traed a'r Genau olygu gohiro'r digwyddiad nes Caerdydd.

Cynhaliwyd Gŵyl yr Urdd, 2001 rhwng 30 Mai - 1 Mehefin 2001 oherwydd bu i Glwy'r traed a genau orfodi gohirio Eisteddfod yr Urdd yn 2001. Rhag siomi'r cystadleuwyr a'r cynulleidfaoedd, penderfynwyd cynnal yr eisteddod ar deledu, radio ac ar y we, a hynny o ddwy ganolfan yng Nghymru - Caernarfon a Llanelli. Gŵyl dridiau oedd Gŵyl yr Urdd, 2001.[1] Roedd yr eisteddfod y flwyddyn honno i fod i'w chynnal yng Nghaerdydd, ond fe'i gohiriwiyd, a chynhaliwyd Eisteddfod Caerdydd a'r Fro yn 2002 yn lle.

Gŵyl yr Urdd, 2001
Math o gyfrwngEisteddfod Genedlaethol yr Urdd Edit this on Wikidata
Dyddiad2001 Edit this on Wikidata
Cylchdro ger Llyswen gydag arwydd cau ffordd adeg Clwy'r traed a genau yn 2001 a achoswyd i'r Urdd ohirio'r Eisteddfod a chynnal Gŵyl yr Urdd yn 2001

Roedd y cystadlaethau i'w clywed yn fyw ar BBC Radio Cymru ac i'w gweld ar S4C a'r we o ddydd Mercher ymlaen. Dyma oedd y tro cynta ers yr Ail Ryfel Byd i'r Eisteddfod gael ei gohirio.[2]

Ymsyg rhai o'r pynciau trafod yn yr Ŵyl oedd bod cystadleuwyr gwaith ysgrifenedig yn cael gormod o help gan athrawon. Trafodwyd hefyd oedd oedd newid enw cystadleuaeth 'Medal y Dysgwyr' i 'Medal y Cymry Cymraeg o Ddewis' yn un llwyddiannus a chywir.[3]

Enillwyr

golygu
  • Y Goron - Sara Huws o Ysgol Penweddig yn Aberystwyth lle roedd yn astudio Ffrangeg, Cymraeg, Almaeneg, Eidaleg, Siapanaeg a Saesneg.[4]
  • Y Gadair - Iwan Rhys o Porthyrhyd a disgybl ym mlwyddyn gynta'r chweched yn Ysgol Maes yr Yrfa, Y Mynydd Mawr, gan astudio Cymraeg, Hanes, Mathemateg a Drama. Aeth yn ei flaen i ennill sawl Cadair arall.[5]
  • Y Fedal Ddrama - Luned Emyr o Gaerdydd yn ennill am yr ail waith wedi iddi ennill yn Eisteddfod Llambed yn 1999. Roedd o Fangor yn wreiddiol ond mae wedi symud i Gaerdydd ac yn astudio Cymraeg a Drama yn Aberystwyth.[6]
  • Tlws Cyfansoddwr - Dewi Ellis Jones o Borthaethwy oedd yn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, lle roedd yn arbennigo ar yr offerynnau taro. Roedd yn aelod o Gerddorfa Cymru.[7]
  • Y Fedal Gelf -
  • Y Fedal Lenyddiaeth - Owain Siôn o Lwyndyrys ger Pwllheli am ei nofel fer ar ffurf dyddiadur, Y Bwli. Roedd ar hyn o bryd yn gwneud ei ymarfer dysgu cyn cychwyn fel athro yn Ysgol Gyfun Glantaf, ym mis Medi. Fe raddiodd o Brifysgol Bangor cyn gwneud MA yno mewn ysgrifennu creadigol.[8]
  • Medal y Dysgwr - gelwyd y gystadleuaeth yn Medal y Cymry Cymraeg o Ddewis. Yr Enillydd oedd Gail Lewis o Ysgol Uwchradd Llanidloes. Roedd yn ferch ffarm a ysbrydolwyd i ddechrau dysgu Cymraeg gan ei diweddar daid a fu farw y llynedd.[9]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "GWYL YR URDD 2001". BBC Cymru. 4 Mehefin 2001.
  2. "'Gwyl unigryw' fydd Gwyl yr Urdd 2001". BBC Cymru. 29 Mai 2001.
  3. "Gormod o help i gystadleuwyr yr Urdd?". BBC Cymru Fyw. 1 Mehefin 2001.
  4. "Merch o Aberystwyth yn cael ei choroni". BBC Cymru. 30 Mai 2001.
  5. "Cadair yr Ŵyl i Iwan Rhys". BBC Cymru. 4 Mehefin 2001.
  6. "Ennill y Fedal Ddrama am yr ail waith". BBC Cymru. 31 Mai 2001.
  7. "Dewi'n taro tant i gyrraedd y brig". BBC Cymru. 4 Mehefin 2001.
  8. "Cerddor yn cipio'r Fedal Lenyddiaeth". BBC Cymru. 30 Mai 2001.
  9. "Medal y Cymry Cymraeg o Ddewis i ferch o Lanidloes". BBC Cymru. 31 Mai 2001.

Dolenni allanol

golygu