Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd a'r Fro 2002
Roedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd a'r Fro 2002 rhwng 3 - 8 Mehefin 2002 a chynhaliwyd hi yng ngerddi Soffia tu ôl Castell Caerdydd. Roedd yr Eisteddfod i'w chynnal yn 2001 ond fe'i gohiriwyd oherwydd Clwy'r Traed a'r Genau a olygwyd y bu'n rhaid i'r Urdd gynnal Gŵyl yr Urdd, 2001 yn ei lle.[1]
Enghraifft o'r canlynol | Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd |
---|---|
Dyddiad | 2002 |
Lleoliad | Parc Bute |
Roedd y niferoedd yn arbennig o lwyddiannus gyda mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn ymweld â'r Ŵyl gyda 29,351 yn dod i'r maes ar y dydd Mawrth - y nifer fwyaf erioed i ymweld a Phrifwyl yr Urdd a'r mudiad. Roedd hyn, efallai'n rannol gan bod dathliadau Jiwbili y Frenhines Elisabeth II y golygu bod deuddydd o wyliau banc.[2]
Mwy o Chwaraeon golygu
Mewn datganiad i'r wasg o'r Maes, dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Jim O'Rourke fod yr Urdd am fuddsoddi rhagor mewn chwaraeon. Daeth hyn yn sgîl arolwg gynhwysfawr o'r aelodau a ddangosodd dyheuad am fwy o weithgareddau chwaraeon gan y mudiad.[3]
Enillwyr golygu
- Y Goron - Angharad Elen Blythe o Landwrog, Arfon, cerdd am fywyd merched y stryd mewn rhan amheus o ddinas Vancouver yng Nghanada. Roedd yn astudio yng Nghaerdydd.[4]
- Y Gadair - Ifan Prys yn ennill am yr ail dro wedi cipio'r Gadair yn Eisteddfod Bro Conwy yn 2000. Roedd yn ail ac yn drydydd am y gadair yng Ngŵyl yr Urdd a drefnwyd yn lle'r eisteddfod arferol. Roedd yn gyn-fyfyriwr yn Aberystwyth ac ar fin myn i weithio yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn.[5]
- Y Fedal Ddrama - Lowri Huws. Wedi cwyn gan un o'r beirniaid, Jeremy Turner nad oedd modd i'r bobl weld a mwynhau y dramâu buddugol yn yr Urdd, cynigiodd BBC Radio Cymru ei ddarlledu.[6]
- Y Fedal Lenyddiaeth - Meinir Eluned Jones, gyda'i chyfrol Sylfeini Llithrig.[7]
- Tlws Cyfansoddwr -
- Y Fedal Gelf - Enillydd y Fedal Gelf a Dylunio Technoleg eleni yw Alex Kennedy o Ysgol y Creuddyn, ei obaith yw dilyn cwrs gradd mewn dylunio cynnyrch yn Lerpwl. Yn un o chwech o blant cynlluniodd storfa cylchgronau yn y cartref, gosod cwpanau a lle i blant chwarae a thynnu llun am hynny am gost o lai na £60.[8]
- Medal y Dysgwr - Louise Brown o Ysgol Uwchradd Caerdydd enillodd gyda llythyr at Hedd Wyn oddi wrth ei chwaer a sgwrs rhwng Siwan a Llywelyn Fawr. Roedd yn edrych ymlaen at fynd i astudio'r gyfraith yn Rhydychen.[9]
Gweler hefyd golygu
- Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd - rhestr enillwyr
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "Gwell hwyr na hwyrach". BBC Cymru. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Mwy nag erioed ar Faes yr Urdd". BBC Cymru. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Mr Urdd - gawn ni fwy o chwaraeon' - meddai'r ifanc". BBC Cymru. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Coron ar ei phen - diolch i ferched y strydoedd". BBC Cymru. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Angerdd storm yn deilwng o gadair". BBC Cymru. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Radio Cymru yn achub drama rhag y llwch". BBC Cymru. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Lluniau dydd Llun". BBC Cymru. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Mewn hwyliau gwych - pabell gelf newydd". BBC Cymru. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Llythyr at Hedd Wyn yn ennill medal i ddysgwraig". BBC Cymru. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.