Gair rhydd

papur newydd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Papur newydd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yw Gair rhydd. Mae'n gyhoeddiad wythnosol, maint tabloid sydd yn rhad ac am ddim. Fe'i sefydlwyd ym 1972 ac fe'i olygir gan swyddog sabothol llawn amser yr Undeb Myfyrwyr. Mae adrannau'r papur yn cynnwys: Newyddion, Newyddion Bydol, Iechyd, Gwyddoniaeth, Swyddi ac Arian, Gwleidyddiaeth, Chwaraeon, Erthygl Olygyddol a Barn, colofnydd neu ddwy, tudalen "Problem" gwatwarus, 'Five minute Fun' (posau), ac amserlenni teledu. Ysgrifennir y papur yn Saesneg, ond mae yna adran fechan (fel arfer nid mwy na dwy dudalen) Cymraeg o'r enw Taf-Od.

Gair rhydd
Enghraifft o'r canlynolcollege student newspapers and periodicals Edit this on Wikidata
IaithSaesneg, Cymraeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1972 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://cardiffstudentmedia.co.uk/gairrhydd/ Edit this on Wikidata
Gair rhydd
Math Papur newydd myfyrwyr wythnosol
Golygydd Tom Eden
Sefydlwyd 1972
Pencadlys Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd,
Caerdydd
Gwefan swyddogol www.gairrhydd.com

Etholwyd y golygydd cyntaf i gael ei dalu, Meirion Jones (nawr ar y rhaglen BBC Newsnight), ym 1980.

Yn 2003, dechreuodd gair rhydd cylchgrawn pythefnosol o'r enw Quench, a enillodd "Student Publication of the Year 2005" yn yr EMAP Fanzine Awards.

Y golygyddyion cyfredol yw Tom Eden a'r dirprwy yw Michael O'Connell-Davidson (2014-2015).

Adeg Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018, cyhoeddwyd rhifyn yn gyfan gwbl yn Gymraeg am y tro cyntaf.[1]

Gwobrwyon

golygu

Mae gair rhydd wedi ennill nifer o wobrau cyfryngau myfyrwyr, y rhan fwyaf ohonynt ar ddechrau'r 1990au ac yn mwy ddiweddar fel enillwr "Best Paper" y NUS/Daily Mirror National Student Journalism Awards. Enillodd gair rhydd "Newspaper and Magazine of the Year" yn y Guardian Student Media Awards 2005 hefyd, ac enillodd y dirprwy olygydd James Anthony "Student Journalist of the Year".

Cartwnau Muhammad

golygu

Gwaharddwyd y golygydd ar 4 Chwefror 2006 pan, yn argraffiad rhif 804, ailargraffodd gair rhydd un o'r cartwnau dadleuol o'r Proffwyd Muhammad yr oedd nifer o Fwslimiaid ar draws y byd yn credu i fod yn gableddus. Tynwyd yr argraffiad allan o gyhoeddiad o fewn diwrnod i'w ryddhau, a chyhoeddodd y golygydd ymddiheuriad yn y rhifyn dilynol.[2]

Taf-Od

golygu

Adran Gymraeg y papur yw Taf-Od. Ei golygyddion presennol (2019-2020) yw Llion Carbis, Aled Biston, Deio Jones a Rhodri Davies.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Cyhoeddi papur newydd yn uniaith Gymraeg", Golwg360 (10 Awst 2018). Adalwyd ar 10 Awst 2018.
  2.  Mohamed: Gwahardd golygydd. BBC (7 Chwefror 2006). Adalwyd ar 5 Hydref 2012.

Dolenni allanol

golygu