Gamal El-Ghitani
Nofelydd a golygydd yn yr iaith Arabeg o'r o'r Aifft oedd Gamal El-Ghitani (9 Mai 1945 – 18 Hydref 2015). Roedd yn adnabyddus am feirniadu'r Frawdoliaeth Fwslimaidd a'r arlywyddion Nasser a Morsi.[1]
Gamal El-Ghitani | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mai 1945 Sohag Governorate |
Bu farw | 18 Hydref 2015 Cairo |
Dinasyddiaeth | Yr Aifft |
Galwedigaeth | nofelydd, cyfieithydd, newyddiadurwr, llenor |
Plaid Wleidyddol | Free Egyptians Party |
Gwefan | http://alghitany.shorouk.com// |
Ganwyd yn nhref Guhayna yn ardal Sohag, ar lannau Afon Nîl. Astudiodd yng Ngholeg Celf a Chrefft Cairo, a gweithiodd fel dylunydd carpedi. Cafodd ei garcharu am chwe mis ym 1966–67 am wrthwynebu'r llywodraeth.[1] Cafodd swydd yn ohebydd rhyfel i'r papur newydd Akhbar el-Yom ym 1969, ac ysgrifennodd adroddiadau am Ryfel Yom Kippur ym 1973.[2]
Cyhoeddodd ei nofel gyntaf ac enwocaf, Al-Zaynī Barakāt, ym 1974. Ymhlith ei weithiau eraill mae Waqāʾiʿ ḥārat al-Zaʿfarānī (1976), Khiṭaṭ al-Ghīṭānī (1980), Khitāb al-tajalliyāt (tair chyfrol; 1983–86), Al-majālis al-Maḥfūẓīyah (2006), a Dafātir al-tadwīn (chwe chyfrol; 1996–2008). Daeth yn olygydd diwylliant y papur newydd Al-Akhbar ym 1985. Sefydlodd y cylchgrawn llenyddol Akhbar Al-Adāb ym 1993, ac ef oedd y prif olygydd nes 2011. Derbyniodd Wobr y Nîl, anrhydedd uchaf yr Aifft, yn 2015.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Gamal al-Ghitani. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Ebrill 2018.
- ↑ (Saesneg) Sam Roberts, "Gamal al-Ghitani, Egyptian Novelist With a Political Bent, Dies at 70", The New York Times (21 Hydref 2015). Adalwyd ar 3 Ebrill 2018.
- ↑ (Saesneg) Shannon Baxter, "Gamal el-Ghitani: Egyptian author who wrote caustic political parables and founded outspoken 'Akhbar Al-Adab'", The Independent (19 Hydref 2015). Adalwyd ar 3 Ebrill 2018.