Hanesydd a bardd o Sais yn yr iaith Eingl-Normaneg oedd Geffrei Gaimar a flodeuai yn y 1130au. Fe'i nodir am ei groniclau mydryddol Histoire des Bretons ac Estorie des Engles, y cyntaf o'r rhain yn gyfieithiad coll o Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy.

Geffrei Gaimar
Galwedigaethcroniclwr, bardd, hanesydd, cyfieithydd Edit this on Wikidata
Blodeuoddc. 1137 Edit this on Wikidata

Ni wyddys llawer am fywyd Geffrei Gaimar. Un o wŷr llys Hugh d'Avranches, Iarll 1af Caer ydoedd. Mae'n bosib yr oedd yn gyfeillgar â Dafydd y Sgotyn (Esgob Bangor, 1120–38).[1] Gofynnodd Constance, gwraig Ralph FitzGerald, iddo gyfieithu Historia Regum Britanniae a ysgrifennwyd gan Sieffre o Fynwy tua 1136. Addasai'r gwaith hwnnw yn rhan gyntaf ei hanes, ymgais i groniclo hanes Prydain ers oes Caerdroea hyd at farwolaeth Wiliam II, brenin Lloegr. Darparwyd ffynonellau ychwanegol iddo, yn Lladin, Saesneg, a Ffrangeg, gan Robert, Iarll Caerloyw, Walter Espec, a Walter, archddiacon Rhydychen.[2]

Oherwydd addasiad poblogaidd Wace o waith Sieffre, Roman de Brut (1155), ni chopiwyd trosiad Geffrei gan eraill ac felly nid oes testun o Histoire des Bretons yn goroesi. Yn niwedd y 13g rhoddwyd yr enw Estoire des Engles ar y croniclau gan Geffrei, am y cyfnod 495–1100, a gynhwysid gyda'r Roman de Brut. Yn y gwaith hwn mae hanesion a chwedlau'r Daniaid yn Lloegr yn oes yr Eingl-Sacsoniaid, gan gynnwys y fersiwn cynharaf o gerddi Havelok a Buern Bucecarle.[1] Cyfansoddai Estoire des Engles ar ffurf 6526 o linellau wythsill wedi eu trefnu'n gwpledi odli. Dyma'r gwaith hynaf wedi ei ysgrifennu mewn unrhyw ffurf werinol ar yr iaith Ffrangeg.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Hans-Erich Keller, "Geffrei Gaimar" yn Medieval France: An Encyclopedia golygwyd gan William W. Kibler a Grover A. Zinn (Efrog Newydd: Garland, 1995), t. 741.
  2. 2.0 2.1 Ian Short, "Gaimar, Geffrei (fl. 1136–1137), Anglo-Norman poet and historian", Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd ar 2 Mawrth 2019.