Gemau Olympaidd yr Haf 1916

Gemau'r VI Olympiad

Roedd Gemau Olympaidd yr Haf 1916 (Almaeneg: Olympische Sommerspiele 1916), digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r VI Olympiad i fod i'w cynnal yn Berlin, yr Almaen, ond fe'u canslwyd am y tro cyntaf yn hanes y Gemau oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd Berlin wedi ei dewis yn ystod 14eg Sesiwn yr IOC yn Stockholm ar 4 Gorffennaf 1912 gan drechu ceisiadau gan Alexandria, Amsterdam, Brussels, Budapest a Cleveland.[1].

Gemau Olympaidd yr Haf 1916
Math o gyfrwngGemau Olympaidd yr Haf, digwyddiadau a ohiriwyd oherwydd y Rhyfel Mawr Edit this on Wikidata
Dyddiad1916 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1912 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1920 Edit this on Wikidata
LleoliadDeutsches Stadion Edit this on Wikidata
GwladwriaethYmerodraeth yr Almaen Edit this on Wikidata

Y Gemau

golygu

Bu'r paratoadau yn parhau er gwaethaf dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914 gan nad oedd y trefnwyr yn disgwyl i'r rhyfel barhau am sawl blwyddyn. Fel rhan o'r trefniadau roedd cynlluniau ar gyfer wythnos o gampau'r gaeaf gyda sglefrio cyflymder, sglefrio ffigyrau, hoci iâ a sgïo Nordig a byddai hyn yn arwain at sefydlu Gemau Olympaidd y Gaeaf am y tro cyntaf ym 1924.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Past Olympic host city election results" (yn Saesneg). LA84 Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Ionawr 2011. Cyrchwyd 17 Mawrth 2011.
  2. Pelle, Kimberly D.; Findling, John E. (1996). Historical dictionary of the modern Olympic movement (yn Saesneg). Westport, Conn: Greenwood Press. tt. 47–53. ISBN 0-313-28477-6.