Geoffrey Howe
Gwleidydd Ceidwadol Prydeinig a aned yng Nghymru oedd Richard Edward Geoffrey Howe, Barwn Howe o Aberafan (20 Rhagfyr 1926 - 9 Hydref 2015).
Geoffrey Howe | |
---|---|
Ganwyd | 20 Rhagfyr 1926 Port Talbot |
Bu farw | 9 Hydref 2015 o trawiad ar y galon Swydd Warwick |
Man preswyl | Castell-nedd Port Talbot |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfreithegwr, gwleidydd, diplomydd, gweinidog |
Swydd | Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, Arglwydd Lywydd y Cyngor, Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad, Canghellor y Trysorlys, Canghellor y Trysorlys yr Wrthblaid, Cyfreithiwr Cyffredinol dros Gymru a Lloegr, Gweinidog dros Fasnach, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Shadow Secretary of State for Health and Social Care, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Benjamin Edward Howe |
Mam | E. F. Thomson |
Priod | Elspeth Howe |
Plant | Caroline Howe, Alexander Edward Thomson Howe, Amanda Howe |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Gwasanaethodd fel Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn llywodraeth Margaret Thatcher rhwng 1989 a 1990. Yn aelod o'r Blaid Geidwadol, ef oedd gweinidog Cabinet hiraf Margaret Thatcher, gan ddal swyddi canghellor y Trysorlys, ysgrifennydd tramor, ac arweinydd Tŷ'r Cyffredin, dirprwy brif weinidog ac Arglwydd Lywydd y Cyngor (swyddog llywyddol Cyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig).[1] Ystyrir gan lawer i'w ymddiswyddiad ar 1 Tachwedd 1990 ysgogi’r her i'r arweinyddiaeth a arweiniodd at ymddiswyddiad Thatcher dair wythnos yn ddiweddarach.
Ganed Howe ym Mhort Talbot, Cymru, a chafodd ei addysg yn Ysgol Pen-y-bont ar Ogwr, Ysgol Abberley Hall, Ngholeg Caerwynt a Neuadd y Drindod, Caergrawnt, lle darllenodd y gyfraith. Cafodd ei alw i'r bar yn 1952 a bu'n ymarfer yng Nghymru. Wedi hynny cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Ceidwadol (AS) Bebington yn 1964, ond collodd ei sedd yn 1966, gan ddychwelyd i'r bar. Daeth Howe yn AS eto yn etholiad cyffredinol 1970 a chynrychiolodd etholaethau amrywiol yn Nhŷ’r Cyffredin tan 1992. Yn Llywodraeth Edward Heath yr oedd yn gyfreithiwr cyffredinol ac yn weinidog gwladol; wedi buddugoliaeth Llafur yn 1974, daeth Howe yn ganghellor cysgodol y Trysorlys yng nghabinet cysgodol Margaret Thatcher.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Hendrie Oakshott |
Aelod Seneddol dros Bebington 1964 – 1966 |
Olynydd: Edwin Brooks |
Rhagflaenydd: John Vaughan-Morgan |
Aelod Seneddol dros Reigate 1970 – 1974 |
Olynydd: George Gardiner |
Rhagflaenydd: William Clark |
Aelod Seneddol dros Ddwyrain Surrey 1974 – 1992 |
Olynydd: Peter Ainsworth |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Denis Healey |
Canghellor y Trysorlys 5 Mai 1979 – 11 Mehefin 1983 |
Olynydd: Nigel Lawson |
Rhagflaenydd: Francis Pym |
Ysgrifennydd Tramor 11 Mehefin 1983 – 24 Gorffennaf 1989 |
Olynydd: John Major |
Rhagflaenydd: Gwag / William Whitelaw (hyd 1988) |
Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig 24 Gorffennaf 1989 – 1 Tachwedd 1990 |
Olynydd: Gwag / Michael Heseltine (o 1995) |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Glen Segell (1998). The Defence Industrial Base and Foreign Policy (yn Saesneg). Glen Segell. t. 58. ISBN 9781901414127.