Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig ar 18 Mehefin 1970. Enillwyd yr etholiad yn annisgwyl gan y Blaid Geidwadol dan Edward Heath, er fod bron pob arolwg barn cyn yr etholiad wedi dangos y Blaid Lafur, dan Harold Wilson ar y blaen. Collodd y Blaid Ryddfrydol, dan Jeremy Thorpe, hanner ei seddau. Cafodd y Ceidwadwyr, gydag Unioliaethwyr Wlster, fwyafrif o 31.
Daeth Edward Heath yn Brif Weinidog fel canlyniad i Etholiad 1970
Yng Nghymru, ymladdodd Plaid Cymru am y tro cyntaf bob un sedd yng Nghymru (36) a chynyddu ei phleidlais i 175,016, sef 15.5% o'r pleidleisiau. Serch hynny methodd ag ennill un sedd. Collodd Gwynfor Evans y sedd yr oedd wedi ei hennill yn Is-etholiad Caerfyrddin, 1966. Enillodd S. O. Davies sedd Merthyr Tudfil fel Llafur Annibynnol, wedi i'r Blaid Lafur yn yr etholaeth benderfynu fod angen ymgeisydd iau.
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1970
|
---|
Plaid
|
Seddi
|
Pleidleisiau
|
%
|
---|
Plaid Geidwadol
|
330
|
13,145,123
|
46.4
|
Plaid Lafur
|
288
|
12,208,758
|
43.1
|
Plaid Ryddfrydol
|
6
|
2,117,035
|
7.5
|
Plaid Genedlaethol yr Alban
|
1
|
306,802
|
1.10
|
Undeb (Gogledd Iwerddon
|
2
|
140,930
|
0.4
|
Plaid Unoliaethol Brotestannaidd
|
1
|
35,303
|
0.1
|
Plaid Lafur Weriniaethol
|
1
|
30,649
|
0.1
|
Llafur Annibynnol
|
1
|
24,685
|
0.1
|