George Armstrong (peiriannydd)
Roedd George Armstrong (5 Ebrill 1822 – 11 Gorffennaf 1901) yn beiriannydd rheilffordd Seisnig, yn cynllunio locomotifau stêm ar gyfer Rheilffordd y Great Western yng Ngweithdy Heol Stafford, Wolverhampton, rhwng 1864 a 1897. Roedd ei frawd hŷn, Joseph Armstrong, yn beiriannydd gyda'r un rheilffordd. Roedd George yn enwog am ei locomotifau tanc 0-4-2 and 0-6-0.[1] Goroesant dros gyfnod hir, a chawsant eu disodli gan locomotifau tebyg iawn, cynlluniwyd gan Charles Collett a Frederick Hawksworth; Dosbarth 1400 GWR, Dosbarth 5700 GWR a Dosbarth 1600 GWR[2].
George Armstrong | |
---|---|
Ganwyd | 1822 |
Bu farw | 1901 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | peiriannydd |
Cyflogwr |
Bywyd
golyguGanwyd George Armstrong ar 5 Ebrill 1822. Roedd ei deulu yng Nghanada rhwng 1817 a 1824 felly ganwyd ef yno. Mae’n debyg y symudodd y teulu i Newburn ger Newcastle-on-Tyne. Gwelodd o’r locomotif Puffing Billy pan oedd o’n ifanc. Dechreuodd waith gweithio gyda’r peiriannydd Robert Hawthorn yng Nglofa Walbottle pan oedd o’n 14 oed.
Aeth o gyda’i frawd Joseph Armstrong i Hull i fod yn beiriannyddion ar Reilffordd Hull a Selby, ac wedyn aethant i Weithdy Brighton ar Reilffordd Llundain a Brighton. Wedyn aeth George i Ffrainc a gweithiodd ar Chemin de Fer du Nord. Gorfodwyd gan yr heddlu i gynorthwyo, adeiladu barricades yn ystod y Chwyldro Ffrengig 1848 ym Mharis. Daeth Armstrong yn ôl i Loegr i fod yn wrrwr injan ar Reilfordd Amwythig a Chaer yn Saltney, ac wedyn fforman locomotifau. Symudodd i Weithdy Heol Stafford, Wolverhampton ym 1853. Daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffordd y Great Western ym 1854 ac roedd Heol Stafford yn gifrifol am gynnal y cerbydau a locomotifau lled safonol. Roedd Joseph Armstrong yn Brif Beiriannydd yno, gyda chynorthwy ei frawd fel rheolwr y gweithdy.
Symudodd Joseph i Weithdy Swindon ym 1864, a daeth George yn brif beiriannydd yn Heol Stafford, gyda chymorth William Dean. Aeth George i Ffrainc eto ym 1870 i roi cyngor peiriannol ynglŷn â’r Rhyfel Ffrainc a Phrwsia ac roedd rhaid iddo amddiffyn walia Paris gyda rheiffl. Ac eithrio ailadeiladu locomotifau eraill, adeiladodd Armstrong ond ychydig o locomotifau 2-4-0 neu 0-6-0 yn gynnar yn ei yrfa yn Wolverhampton.[3] Yn hwyrach, canolbwyntiodd ar locomotifau tanc 0-6-0 neu 0-4-2, gan gynnwys y dosbarthiadau 517 a 645. Rheolodd y gweithdy am 33 mlynedd; adeiladodd 626 o locomotifau ac ailadeiladodd 513.
Ymddeolwyd George ym 1897 a bu farw ym Wolverhampton ar 11 Gorffennaf 1901.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan steamindex.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-05. Cyrchwyd 2021-01-30.
- ↑ Gwefan rmweb.co.uk
- ↑ Holcroft 1953, t. 86.