Gwaunyterfyn

cymuned ym mwrdeisdref sirol Wrecsam

Cymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam yw Gwaunyterfyn. Weithiau defnyddir Parc Acton, enw'r parc mawr gerllaw, fel enw ar y gymuned hefyd. Ar un adeg roedd yn bentref ar wahan, ond erbyn hyn mae wei ei lyncu gan dref Wrecsam; saif i'r gogledd-ddwyrain o ganol y dref.

Gwaunyterfyn
Mathcymuned, maestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaWrecsam Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0607°N 2.9805°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000890 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auLesley Griffiths (Llafur)
AS/auSarah Atherton (Ceidwadwyr)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lesley Griffiths (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Sarah Atherton (Ceidwadwyr).[1][2]

Hanes Golygu

Roedd 'Plas Acton yn perthyn i deulu Jeffreys yn y 17g; yr aelod enwocaf o'r teulu oedd y barnwr George Jeffreys. Yn 1947 rhoddodd y perchennog, William Aston, y neuadd a'r parc yn rhodd i dref Wrecsam.

Cafwyd hyd i gasgliad o bennau bwyeill a chelfi eraill ym Mharc Acton, a ystyrir y casgliad pwysicaf o gelfi o ddiwedd cyfnod cynnar Oes yr Efydd yng Nghymru. Credir eu bod yn defnyddio copr o fwynfeydd Pen y Gogarth ger Llandudno, lle roedd mwyngloddio ar raddfa fawr. Enwyd arddull y celfi ar ôl Parc Acton.

Cyfrifiad 2011 Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Gwaunyterfyn (pob oed) (13,479)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Gwaunyterfyn) (1,490)
  
11.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Gwaunyterfyn) (9843)
  
73%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Gwaunyterfyn) (2,164)
  
37.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau Golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]