Bardd Cymraeg oedd Ieuan Tew Ieuanc neu Ieuan Tew Brydydd (tua 1540 - 1608). Bu llawer o ddrysu rhyngddo â bardd arall a elwid yn Ieuan Tew Brydydd sef Ieuan Tew Hynaf (Ieuan Tew Brydydd Hynaf) (bl. hanner cyntaf yr 16g).[1]

Ieuan Tew Ieuanc
Ganwyd1540s Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywyd a cherddi

golygu

Ychydig a wyddys am y bardd ar wahân i'r dystiolaeth a geir yn ei gerddi. Blodeuodd yn ail hanner yr 16g. Bu farw yn 1608, yn hen ŵr tua 70 oed. Ymddengys ei fod yn frodor o Wynedd.[1]

Graddiodd fel disgybl disgyblaidd yn Eisteddfod Caerwys 1567, sy'n awgrymu y cafodd ei eni tua dechrau'r 1540au. Ymhlith ei gerddi ceir cerdd moliant i Siôrs Owain (George Owen), Henllys, Sir Benfro, awdur y gyfrol The Description of Penbrockshire (sic).[1]

Canwyd marwnad iddo gan ei gyfaill Siôn Phylip, y bardd o Ardudwy a fu hefyd yn un o raddedigion ail Eisteddfod Caerwys.[1]

Llyfryddiaeth

golygu

Cyhoeddwyd marwnad Ieuan Tew i George Owen yn y gyfrol

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Blodeugerdd Barddas o'r Ail Ganrif ar Bymtheg, cyfrol 1, nodyn ar dud. 318.