Cynog Dafis
gwleidydd (1938- )
Gwleidydd Cymreig ac aelod o Blaid Cymru yw Cynog Glyndwr Dafis (ganwyd 1 Ebrill 1938). Enillodd etholaeth Sir Aberteifi a Gogledd Penfro (a ddaeth yn etholaeth Ceredigion yn 1997) i Blaid Cymru a'r Blaid Werdd ar y cyd yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992.
Cynog Dafis | |
| |
Aelod Seneddol dros Geredigion
| |
Cyfnod yn y swydd 9 Ebrill 1992 – 10 Ionawr 2000 | |
Rhagflaenydd | Creuwyd yr etholaeth |
---|---|
Olynydd | Simon Thomas |
Cyfnod yn y swydd 6 Mai 1999 – 1 Mai 2003 | |
Olynydd | Helen Mary Jones |
Geni | |
Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Tadogaethau gwleidyddol eraill |
Y Blaid Werdd (DU) |
Bu'n athro am 2 flynedd ym Mhontardawe yn dysgu Cymraeg a Saesneg cyn cael swydd pennaeth Saesneg yn Ysgol Uwchradd Emlyn ym Medi 1962
Yn 1999 daeth yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros etholaeth Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Ymddiswyddodd fel aelod seneddol yn 2000, ac ymddeolodd o'r Cynulliad yn 2003.
Cydnabyddir ef fel un o brif ffurfwyr polisi Plaid Cymru yn ystod y cyfnod hwn.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bywgraffiadau Cyngor » Cynog Dafis. Cartrefi Cymunedol Cymru.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Geraint Howells |
Aelod Seneddol dros Ceredigion 1992 – 2000 |
Olynydd: Simon Thomas |
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
Rhagflaenydd: swydd newydd |
Aelod Cynulliad dros Canolbarth a Gorllewin Cymru 1999 – 2003 |
Olynydd: Helen Mary Jones |