Pyramidau Giza
Pyramidau Giza, ger lan Afon Nîl ar gyrion Cairo, yw'r enwocaf o byramidau'r Aifft.
Math | tre'r meirw, grŵp |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Giza Governorate |
Gwlad | Yr Aifft |
Arwynebedd | 16,359 ha |
Uwch y môr | 27 metr |
Cyfesurynnau | 29.97611°N 31.13278°E |
Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Ceir tri pyramid mawr yn Giza. Y mwyaf, a'r mwyaf yn yr Aifft, yw Pyramid Mawr Khufu, un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd oherwydd ei faint. Mae Pyramid Khafre bron cymaint, ac yn edrych yn fwy oherwydd ei fod wedi ei adeiladu ar dir ychydig yn uwch. Y trydydd pyramid yw Pyramid Menkaure sydd dipyn yn llai. Yma hefyd mae y Sffincs Mawr.
Roedd Khufu (Groeg: Χέωψ, Cheops) yn frenin yr Aifft yn ystod Yr Hen Deyrnas. Teyrnasodd o tua 2589 CC. hyd 2566 CC.