Gladys Morgan

actores

Digrifwraig Cymreig oedd Gladys Morgan (7 Tachwedd 189816 Ebrill 1983) a oedd yn cael ei disgrifio fel 'Brenhines Comedi' neu 'Brenhines y Chwerthin' ac fe roedd yn enwog am ei chwerthiniad byddarol, heintus a diddannedd.[1]

Gladys Morgan
Ganwyd7 Tachwedd 1898 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ebrill 1983 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdigrifwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Bywyd cynnar a gyrfa golygu

Ganwyd Gladys Morgan yn Abertawe yn 1898 ac er nad oedd ei theulu yn un theatrig, roedd ganddi ddiddordeb erioed mewn perfformio ac roedd ganddi act dawnsio a chanu erbyn yr oedd hi'n unarddeg mlwydd oed. Ymunodd â pharti gyngerdd plant o'r enw The Brilliant Gems, lle un o'i chydweithwyr oedd Albert Burdon, a ddaeth yn fwy adnabyddus yn hwyrach fel actor a digrifwr.

Dim ond pedwar troedfedd a deg modfedd oedd taldra Morgan a ffurfiodd act o'r enw The Three Virgins, gyda dau arall oedd hefyd yn arbennig o fyr, Betty Jumel ar fiolin a Vy Vivienne ar y piano.

Tra oedd yn teithio fel cantores unigol mewn parti cyngerdd yn Ynys Manaw, gofynnwyd iddi gan reolwr y cwmni chwarae rhan hen fenyw fyddar mewn sgets. Er yn gyndyn, cytunodd i wneud hynny, a fe'i syfrdanwyd a'i plesiwyd fod y gynulleidfa yn ei chael yn ddoniol tu hwnt. [2] Fe ymunodd â phriododd cyd-ddigrifwr Frank Laurie, a oedd wedi cyfarfod ag e pan oedd hi'n un deg chwe mlwydd oed. Nid oedd yr act yn llwyddiannus nes yr awgrymwyd y dylai'r ddau gyfnewid rôl, gyda Morgan yn dod yn gymeriad digri a Laurie y dyn difrif. Fe wnaeth y cynllun weithio a daeth digon o waith i ddilyn. Erbyn hyn roedd wedi newid ei acen Cymreig i ffafrio un Swydd Gaerhirfryn, o bosib i ddynwared ei arwr Frank Randle.

Fel nifer o ddiddanwyr fe weithiodd i Entertainments National Service Association (ENSA) yn ystod y rhyfel, gyda'i merch Joan yn ymuno â nhw. Ar y pryd, trefnydd ENSA i ogledd-orllewin Lloegr oedd Bert Hollman. Yn ddiweddarach fe briododd Bert a Joan, gyda Bert yn ymuno a'r act fel perfformiwr a rheolwr.

Welsh Rarebit golygu

Daeth cyfle mawr Morgan pan aeth am glyweliad i'r sioe radio adloniant poblogaidd ar y BBC, Welsh Rarebit.[3][4] Gan mai ar gyfer perfformwyr Cymreig yn unig oedd y sioe, roedd y cynhyrchydd Mai Jones yn gyndyn o'i chastio, am fod Morgan yn adnabyddus iawn am ei hacen Sir Gaerhirfryn. Ar ôl i Morgan dreulio wythnos yn perfformio yn defnyddio ei hacen naturiol yn Neuadd y Dre, Pontypridd, roedd hyn yn ddigon i argyhoeddi Mai fod Morgan wir yn Gymraes, ac fe gafwyd darn dwy funud ar y sioe [5] Mae sôn bod ei ffrind, y digrifwr Wyn Calvin, wedi dweud "Fe wnaeth ei chwerthiniad gwallgof greu gymaint o gynnwrf fel ei fod wedi llenwi'r ddwy funud" [5] Daeth Morgan yn ddigrifwraig breswyl ar y sioe, gyda seren ifanc newydd, Harry Secombe.

Arweiniodd llwyddiant Morgan ar Welsh Rarebit at sawl taith adloniant llwyddiannus o gwmpas prif theatrau'r DU, yn cynnwys cefnogi Frankie Vaughan yn Paladiwm Llundain yn 1961. Ynghyd â sawl ymddangosiad teledu mewn sioeau fel The Good Old Days,[6] fe'i clywyd yn aml ar sioeau radio poblogaidd fel  Workers' Playtime a Midday Music Hall. Fe wnaeth ymddangosiadau rheolaidd ar Educating Archie a The Frankie Howerd Show, gyda'i blaser streipiog nodweddiadol a'i gwên ddireidus, ei sefydlu fel un o berfformwyr mwyaf poblogaidd y wlad.

Trwy gydol y 1960au roedd yn brysur gyda phantomeimau a thymor haf, pum taith i Awstralia, a pedwar taith wedi'u werthu allan yn Ne Affrica lle'r oedd gan y teulu ei chyfres eu hunain ar Springbok Radio o'r enw The Morgans.

Fe wnaeth Morgan ffilm gyda Nancy Kwan, Terry-Thomas a Bud Flanagan yn 1965 o'r enw The Wild Affair.[7]

Yn dioddef o wynegon roedd yn rhaid i Morgan ymddeol o'r diwydiant pan oedd yn ei saithdegau a bu farw yn Worthing, Gorllewin Sussex lle'r oedd wedi byw am 47 mlynedd, yn 1983. Yn 2012, datguddiwyd plac glas ar y tŷ yn Salisbury Road, Worthing lle roedd hi'n arfer byw, a lle mae ei merch Joan Laurie yn byw erbyn hyn.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Plaque unveiled in memory of Worthing screen legend (en) , Worthing Herald, 25 Rhagfyr 2012. Cyrchwyd ar 14 Mawrth 2016.
  2. (Saesneg) Queen of laughter. The Stage (10 Chwefror 2005). Adalwyd ar 14 Mawrth 2016.
  3. (Saesneg) BBC Wales On Air - Welsh Rarebit. BBC Wales. Adalwyd ar 14 Mawrth 2016.
  4. (Saesneg) Swansea Comedy legend on Radio Wales (25 Mai 2006). Adalwyd ar 14 Mawrth 2016.
  5. 5.0 5.1 Roy Hudd's Cavalcade of Variety Acts. p.126 Robson Books 1998 ISBN 1-86105-206-5
  6. TV.com (1961-10-18).
  7. "The Wild Affair".

Dolenni allanol golygu