Edward Roberts (Iorwerth Glan Aled)

bardd a llenor
(Ailgyfeiriad o Glan Aled)

Bardd a chyfieithydd o'r 19g oedd Edward Roberts (5 Ionawr 1819 - 18 Chwefror 1867), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Iorwerth Glan Aled neu Glan Aled.[1]

Edward Roberts
FfugenwIorwerth Glan Aled, Glan Aled Edit this on Wikidata
Ganwyd5 Ionawr 1819 Edit this on Wikidata
Bu farw18 Chwefror 1867 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, cyfieithydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed Edward Roberts ym mhentref Llansannan yn yr hen Sir Ddinbych yn 1819. Cafodd yrfa amrywiol. Cafodd ei ordeinio'n weinidog gyda'r Bedyddwyr a gwasanaethodd yn Lerpwl a Rhymni. Bu hefyd yn cadw siop yn Rhuddlan a Dinbych yn ei sir enedigol.[2]

Gwaith llenyddol

golygu

Uchelgais mawr y bardd oedd llunio arwrgerdd fawr ar thema Feiblaidd a fyddai'n hafal i Goll Baradwys (Paradise Lost) John Milton. Roedd cyfansoddi cerdd o'r fath, er mwyn urddas y Gymraeg, wedi denu bryd sawl bardd Cymraeg ers dyddiau Goronwy Owen. Ond mai cerdd hir Glan Aled, Palestina, yn hirwyntog a heb lawer o awen ac yn ogystal mae'n dioddef dan ddylanwad cystrawennau Saesneg a geiriau a fathwyd gan Goronwy Owen. Gwelir awen y bardd ar ei gorau efallai yn ei gerddi byrion, fel Afon Aled, Llansannan, Cymru ac eraill.[2]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Dyddanion, neu Hanesion Difyrus a Buddiol (1838)
  • Y Weithred o Fedyddio, (1849)
  • Cerdd Allwyn, er Coffadwriaeth am E. Jones, ‘Ieuan Gwynedd' (1853)
  • Palestina (1851)
  • Y Llenor Diwylliedig, sef Llawlyfr yr Ysgrifenydd, yr Areithydd, a'r Bardd (1862)
  • Mel-Ddyferion Barddonawl (1862)
  • Gwaith Barddonol Glan Aled (1890). Cyhoeddwyd ar ôl marwolaeth y bardd gan ei nai Edward Jones.
  • Ceir detholiad o gerddi byrion Glan Aled gan Gwenallt (Llyfrau Deunaw, 1955)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "ROBERTS, EDWARD ('Iorwerth Glan Aled'; 1819 - 1867), bardd a llenor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-07-23.
  2. 2.0 2.1 D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922), t.53.