Glaswellt y gweunydd

Molinia caerulea
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotau
Ddim wedi'i restru: Comelinidau
Urdd: Poales
Teulu: Poaceae
Genws: Molinia
Rhywogaeth: M. caerulea
Enw deuenwol
Molinia caerulea
Carl Linnaeus
Cyfystyron

Aira caerulea

Planhigyn blodeuol Monocotaidd a math o wair yw Glaswellt y gweunydd sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Poaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Molinia caerulea a'r enw Saesneg yw Purple moor-grass.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Glaswellt y Gweunydd, Glaswellt y Bwla, Gwellt Bwla, Melic-wellt Rhuddlas, Meligwellt Rhuddlas.

Gall dyfu bron mewn unrhyw fan gan gynnwys gwlyptiroedd, coedwigoedd a thwndra. Dofwyd ac addaswyd y planhigyn gan ffermwyr dros y milenia; chwiorydd i'r planhigyn hwn yw: india corn, gwenith, barlys, reis ac ŷd.

Nodweddion unigryw golygu

Yr unig weiryn collddail yn fflora Prydain. Golyga hyn bod y rhubannau hir sych yn chwythu ac yn hel o gwmpas waliau a ffensus mewn rhai stormydd gaeaf yn yr ucheldir:

22 Chwefror 1908: Rain and much wind Morning. Showery and windy 12. 1.15pm. Violent hurricane from Gwynant & a flash of lightning. This lasted about 3⁄4 hr. Air full of dry heather, grasses etc, and water from the streams. Wind quieter at 2, but still rough. Dry after 3.30. cloudy night. Barometer readings [morn. 29.38, noon 29.3, night 29.46]. Blew tree down at P. y. G. [Pen y Gwryd][2][3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. O ddyddiadur cofnodion tywydd Arthur Lockwood wedi eu cymryd yn ardal Cwm Dyli Dyddiaduron Amgylcheddol Cymreig
  3. Tywyddiadur gwefan Llên Natur
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: