Goetre (Port Talbot)

pentref yng Nghastell-nedd Port Talbot

Pentref yw Goetre ger tref Port Talbot. Gan fod sawl Goetre i gael yng Nghymru gan gynnwys Goetre Sir Fynwy, ger Merthyr Tudful, Ceredigion, Maldwyn, mae'n hawdd cymysgu rhwng y pentrefi. Lleoliad grid y pentref yw SS7889.

Goetre
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5923°N 3.7555°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map
Eglwys San Pedr, Goetre, Port Talbot
Arwyddbost Eglwys San Pedr, Goetre, Port Talbot

Etymoleg

golygu

Daw'r enw "Goetre" o'r geiriau coed + tref. O'r herwydd, y sillafiad cywir yw Goetre a dyma mae Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru Comisynydd y Gymraeg yn arddel.[1]

Nodweddion

golygu

Rhed y nant Ffrwd Wyllt drwy'r pentref ac ymlaen at Tai-bach.

Pêl-droed

golygu

Ceir C.P.D. Goytre United yn y pentref. Mae'r tîm yn chwarae yn gyson yn Cynghrair Cymru (Y De) (y Welsh League) sef ail-reng system byramid Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Unwaith eto, ni ddylid drysu'r tîm yma gyda thîm pêl-droed Goytre Athletic yn Sir Fynwy.

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Gastell-nedd Port Talbot. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato