Gofannon fab Dôn

(Ailgyfeiriad o Gofannon)

Cymeriad mytholegol Cymreig yw Gofannon fab Dôn. Mae ei enw yn gytras â'r gair 'gof'. Credir ei fod yn ffurf ar dduw Celtaidd sy'n gysylltiedig â gwaith y gof. Mae'n un o blant y dduwies Geltaidd Dôn.

Gofannon yn y traddodiad Cymreig golygu

Yn y chwedl Cymraeg Canol gynnar Culhwch ac Olwen mae'r cawr Ysbaddaden Bencawr yn rhoi i'r arwr Culhwch y dasg o aradu cae sydd newydd ei glirio o goed. Ar yr un pryd mae'n datgelu iddo na allai wneud hynny heb gymorth parod Gofannon: 'Gofannon fab Don i ddyfod i ben y tir i wared yr haearn; ni wna ef waith o'i fodd namyn i frenin teithiog.'

Yn Mhedwaredd Gainc y Mabinogi, 'Math fab Mathonwy', mae Gofannon yn frawd i Arianrhod. Mae'n lladd Dylan Eil Don, mab Arianrhod, trwy ddamwain.

Yn y gerdd gynnar 'Ymddiddan Myrddin a Thaliesin', cysylltir Gofannon â brwydr Arfderydd yn yr Hen Ogledd. Dywedir iddo ymladd yn y frwydr honno â saith gwaywffon.

Ceir cyfeiriad at gaer arallfydol o'r enw 'Caer Ofannon' mewn cerdd a bridolir i'r Taliesin chwedlonol yn Llyfr Taliesin.

Credir mai o'r gair Gofannon y daw'r elfen gav yn Abergavenny (Y Fenni) a ddaeth yn ei dro o'r hen air coll Brythoneg; Gobannium oedd gair y Rhufeiniaid am y dref. Ceir tystiolaeth ei bod yn ganolfan haearn ymhell cyn hynny.

Goibniu golygu

Y ffigwr cyfatebol yn nhraddodiad Iwerddon yw Goibniu. Mae Goibniu yn of i'r Tuatha Dé Danann (yn llythrennol: 'Plant Dôn') yn y chwedlau Gwyddeleg. Yn chwedl Brwydr Mag Tuired (Cath Maige Tuired) mae'n creu pennau gwaywffon a chleddyfau i'r arwyr.

Ymddengys fod Goibniu a Gofannon yn eu tro yn cyfateb i'r duw Gobannus yng Ngâl.

Cyfeiriadau golygu

  • A. O. H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1952)
  • Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Gwasg Boydell, 1998)
  • Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1951)