Gogledd Gwlad yr Haf
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Gwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, yw Gogledd Gwlad yr Haf (Saesneg: North Somerset).
Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr |
---|---|
Prifddinas | Weston-super-Mare |
Poblogaeth | 213,919 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Hildesheim |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwlad yr Haf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 373.7521 km² |
Cyfesurynnau | 51.38°N 2.8°W |
Cod SYG | E06000024 |
GB-NSM | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of North Somerset Council |
Mae gan yr ardal arwynebedd o 374 km², gyda 215,052 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ag Ardal Sedgemoor ac Ardal Mendip i'r de, Gorllewin Gwlad yr Haf a Taunton i'r dwyrain, yn ogystal â sir Bryste i'r gorllewin-ddwyrain a Môr Hafren i'r gogledd-orllewin.
Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 1996, pan ddiddymwyd Swydd Avon. Roedd wedi bod yn ardal an-fetropolitan (sef Ardal Woodspring) yn y sir honno. Fel awdurdod unedol, mae'n annibynnol ar gyngor sir Gwlad yr Haf.
Mae'r awdurdod yn hollol ddi-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Weston-super-Mare. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Clevedon, Nailsea a Portishead.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 3 Tachwedd 2020