Tîm pêl-droed cenedlaethol Gogledd Iwerddon

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Gogledd Iwerddon (Saesneg: Northern Ireland national football team) yn cynrychioli Gogledd Iwerddon yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Iwerddon (Saesneg: Irish Football Association) (IFA), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r IFA yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).

Tîm pêl-droed cenedlaethol Gogledd Iwerddon
Enghraifft o'r canlynoltîm pêl-droed cenedlaethol Edit this on Wikidata
Mathtîm pêl-droed cenedlaethol Edit this on Wikidata
PerchennogCymdeithas Bêl-droed Gogledd Iwerddon Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.irishfa.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhwng 1882 a 1921 roedd un tîm yn cynrychioli Iwerddon gyfan gyda'r IFA yn rheoli'r gamp ar yr ynys, ond wedi sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon a thîm pêl-droed cenedlaethol Gweriniaeth Iwerddon lleihawyd awdurdodaeth yr IFA i gynnwys Gogledd Iwerddon yn unig. Er hyn, roedd Gogledd Iwerddon yn parhau i ddewis chwaraewyr o Iwerddon gyfan hyd nes 1950[1].

Mae Gogledd Iwerddon wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar dair achlysur, ym Cwpan y Byd 1958, Cwpan y Byd 1982 a Cwpan y Byd 1986.

Pat Jennings sydd â'r record am y nifer fwyaf o ymddangosiadau dros ei wlad ar ôl ennill 119 cap dros Gogledd Iwerddon[2] a David Healy sydd wedi sgorio'r nifer fwyaf o goliau dros Gogledd Iwerddon ar ôl rhwydo 36 gôl[3].

Cyfeiriadau golygu

  1. "Why did Ireland reject an invitation to the 1950 World Cup in Brazil?". 2014-06-28. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-12. Cyrchwyd 2014-12-27. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Profile: Pat Jennings". IrishFA.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-15. Cyrchwyd 2015-07-21.
  3. "Record goal-scorer David Healy was one of Northern Ireland greats". BBCSport.
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.