Drama Gymraeg gan William R.Lewis yw Golff, a gomisiynwyd ac a lwyfanwyd am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1993.[1]

Clawr y ddrama Golff gan William R.Lewis

Ysgrifenwyd y ddrama ar gyfer yr actor o Fôn J.O Roberts, oedd yn hoffi Golff bron gystal â'r dramodydd ei hun!

Lleolir y ddrama yn Ashgrove Golf Range, Ynys Môn ym mis Gorffennaf 1992. Mae'n ddrama onest sy'n ymdrin mewn modd ddigyfaddawd â'r realiti a welodd y dramodydd o'i gwmpas nid yn unig ar Ynys Môn ar ddechrau'r 1990au, ond hefyd drwy Gymru benbaladr.

Morris yw'r prif gymeriad sy'n dyheu am sefydlu cwrs golff yn hen gartref y teulu, ond yn wynebu gwrthwynebiad chwyrn o bob cyfeiriad. Mae Morris hefyd yn hoffi rheoli pawb a phopeth. Rhoddwyd Golff yn deitl ar y ddrama am mai rhyw 'chwarae golff' â bywydau unigolion a wna Morris. Yn union fel y ceisia'r golffiwr reoli tynged pêl, ceisia Morris reoli tynged unigolion.

Yn ei Ragair i'r ddrama gyhoeddedig, eglura'r dramodydd gefndir y ddrama. 'Yn nechrau'r naw degau ym Môn, teimlai pobl fod llygredd gwleidyddol ar gynnydd. Defnyddir yr ymadrodd 'ar gynnydd' yn fwriadol, oherwydd gŵyr unrhyw un sy'n gyfarwydd â hanes fod llygredd o'r fath, mewn rhyw ffurf neu'i gilydd, yn bod erioed. Ond, gan amlaf, gwneid ymdrech fwriadol i'w gelu rhag llygaid y cyhoedd. Yr hyn a gythruddai pobl Môn oedd na wneid unrhyw ymdrech i wneud hyn: ymhyfrydai rhai unigolion yn eu llygredd. Ni theimlent wneud dim byd o'i le."

Rhaglen Cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Golff 1993

Ysgrifennwyd y ddrama yn fwriadol yn nhafodiaeth Môn. Ychwanegodd William R. Lewis yn ei Ragair: 'Teimlwn yn ystod rhai perfformiadau o'r ddrama fod ieithwedd Morris, mewn rhyw ffordd ryfedd, yn cyfareddu cynulleidfa. Yr oeddwn yn lled obeithio y byddai hyn yn digwydd. Mae Morris yn meddu ar rywbeth a fawrygir ac a ddelfrydir yn y Gymru Gymraeg: dawn dweud. Mae'n eironig nad estroniaid yn aml sy'n halogi treftadaeth ac yn tanseilio gwerthoedd oesol ond Cymry Cymraeg hynod gyfoethog a lliwgar eu hiaith'.

Cyhoeddwyd y ddrama gan Wasg Carreg Gwalch yn 2001.

Cymeriadau

golygu
  • Gwyneth - gwraig yn ei phum degau
  • Morris - ei gŵr, yn ei bum degau
  • Ceinwen - eu merch
  • Euros - gŵr ifanc, un ar hugain oed
  • Joyce - nyrs yn ei thridegau
  • Gruff - gweithiwr ar y maes golff, yn ei dri degau
  • Arwyn - cynghorydd a chyfaill Morris, yn ei bum degau

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Llwyfanwyd y ddrama'n wreiddiol gan Gwmni Theatr Gwynedd yn 2001. Cyfarwyddwr Graham Laker; cast:

 
Cast Cwmni Theatr Gwynedd o'r ddrama Golff ym 1993

Cyfeiriadau

golygu
  1. Lewis, William R. (2001). Golff. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 0-86381-610-X.
  2. Rhaglen Cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Golff 1993.