William R. Lewis
Dramodydd, beirniad ac athro sy'n hanu o Sir Fôn yw William Robert Lewis (ganwyd 1948). Magwyd Dr William Lewis yn Llangristiolus a Llangefni. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Llangefni a Choleg Gogledd Cymru, Bangor, rhwng 1959 a 1966. Rhwng 1973 a 1978 bu'n athro Cymraeg a Drama yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, a chyn hynny yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Cyn ymddeol, bu'n Uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru, Bangor am dros bum mlynedd a deugain. Cychwynnodd yn y Coleg ym mis Medi 1978.[1] Ei briod faes oedd y ddrama a’r theatr Ewropeaidd, y ddrama a’r theatr yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif.[2]
William R. Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 1948 Llangristiolus |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, athro |
Enillodd Dlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Dwyfor ym 1975 gyda'r ddrama feiddgar Geraint Llywelyn. a bu'n feirniad ar y gystadleuaeth sawl gwaith wedi hynny.
Bu hefyd yn aelod o Fwrdd Artistig Cwmni Theatr Gwynedd ac yn aelod o dîm sgriptio'r cyfresi Pobol y Cwm ac Halen yn y Gwaed.
Gan ei fod wedi ysgrifennu gweithiau ar gyfer y llwyfan, radio a theledu, dysgai hefyd gyrsiau creadigol i’w fyfyrwyr. Mae ganddo brofiad helaeth fel cyfarwyddwr theatr, ac wedi cyfarwyddo sawl drama o eiddo John Gwilym Jones a Saunders Lewis. Cyhoeddodd sawl astudiaeth feirniadol ar natur gwaith John Gwilym Jones. Mae ganddo diddordeb yn nramâu Cymraeg yr ugeinfed ganrif, yn arbennig gweithiau W.J.Gruffydd.
Bu'n ddylanwad mawr ar nifer o ddramodwyr gan gynnwys Manon Wyn Williams.[3]
Dramâu
golygu- Geraint Llywelyn (1975)
- Y Gwahoddiad
- Tŷ Mawr
- Ymylau Byd (1980) - Drama fer ddwy act am ddau gymeriad yn eu saithdegau yn adlewyrchu siom a chwerwedd wrth hel atgofion am eu dyddiau coleg, gan ddarlunio tranc un cyfnod yn hanes Cymru. Darlledwyd y ddrama ar deledu BBC Cymru ym 1980. Cyhoeddwyd ym 1999.
- Enoc Huws (drama gerdd)
- Golff (1993)
- Ffrŵd Ceinwen (2000) - Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Môn 1999 ac a gyflwynwyd yn Theatr Gwynedd, Bangor gan Gwmni Theatr Gwynedd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan Linked-In Yr Athro William R Lewis". Linked In. 19 Awst 2024.
- ↑ "Darlith a thrafodaeth gan Dr William Lewis". Llenyddiaeth Cymru. Cyrchwyd 2024-08-20.
- ↑ WalesOnline (2007-05-30). "Manon's monologue wins Drama Medal". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-20.