Goodbye, Mr Chips (llyfr)

nofel fer am ysgolfeistr

Mae Goodbye, Mr Chips yn nofel fer am fywyd athro ysgol, Mr. Chipping, a ysgrifennwyd gan yr awdur Saesneg James Hilton ac a gyhoeddwyd gyntaf gan Hodder & Stoughton ym mis Hydref 1934.[1] Mae wedi'i addasu yn ddwy ffilm sinema a dau gyflwyniad teledu.

Goodbye, Mr Chips
Clawr yr argraffiad cyntaf
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurJames Hilton Edit this on Wikidata
CyhoeddwrLittle, Brown and Company, Hodder & Stoughton Edit this on Wikidata
GwladLloegr, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
GenreLlenyddiaeth cyfnod ysgol
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Crynodeb Plot golygu

Mae'r nofel yn adrodd hanes athro ysgol annwyl, Mr Chipping, a'i wasanaeth hir yn Ysgol Brookfield, ysgol fonedd ffuglennol i fechgyn yn Lloegr wedi'i lleoli ym mhentref ffuglennol Brookfield, yn y Fenlands. Mae Mr Chips, fel mae'r bechgyn yn ei alw, yn gonfensiynol yn ei gredoau ac yn ymarfer disgyblaeth gadarn yn yr ystafell ddosbarth. Mae ei farn yn ehangu, ac mae ei ddull addysgeg yn llacio ar ôl iddo briodi Katherine, merch ifanc y mae'n cwrdd â hi ar wyliau yn Ardal y Llynnoedd. Mae Katherine yn swyno athrawon a phrifathro Brookfield, ac yn ennill ffafr disgyblion Brookfield yn gyflym. Mae eu priodas yn fyr. Mae hi'n marw wrth eni plentyn. Nid yw Mr Chips byth yn ailbriodi nac yn dangos diddordeb mewn cael perthynas rhamantus arall.[2]

Un o themâu ingol a chwerw felys y llyfr yw bod Chipping wedi bod yn llawer mwy hirhoedlog yn ei swydd na'i holl gyfoedion nes bod ei briodas fer yn pylu i chwedl. Ychydig o bobl sy'n ei adnabod fel unrhyw beth heblaw hen ŵr, di-briod, unig. Er gwaethaf cymwysterau cyffredin Chipping a'i farn bod Groeg a Lladin clasurol (ei bynciau academaidd) yn ieithoedd marw, mae'n athro effeithiol y mae myfyrwyr a llywodraethwyr yr ysgol yn uchel ei barch ohono. Yn ei flynyddoedd olaf, mae'n datblygu synnwyr uchel o ddigrifwch sy'n plesio pawb. Fodd bynnag, mae hefyd yn dod yn dipyn o anacroniaeth, gyda ffordd o siarad hen ffasiwn. Mae ei unigedd yn destun pryder. Ar ei wely angau, mae'n sôn am sut mae bod yn athro wedi gwneud ei fywyd yn gyflawn. Mewn sawl ffordd, gellir darllen y nofel fel myfyrdod ar ystyr bywyd cyffredin, wedi'i fyw'n dawel.[3]

Er bod y llyfr yn sentimental, mae'n darlunio'r newidiadau cymdeithasol ysgubol y mae Chips yn eu profi ar hyd ei oes: mae'n dechrau ei ddeiliadaeth yn Brookfield ym mis Medi 1870, yn 22 oed.[4] Y cyfnod pan oedd y Rhyfel rhwng Ffrainc a Phrwsia ar fin cychwyn; mae'n marw ym mis Tachwedd 1933, yn 85 oed. I ddarllenydd modern, mae'r ffaith bod hon yn fuan ar ôl i Adolf Hitler godi i rym yn fframio'r stori yn sylweddol, ond gyda nodwedd ingol ychwanegol. Nid oedd awdur na darllenwyr y rhifynnau cynnar hynny yn ymwybodol o'r dinistr y byddai Hitler yn ei ddwyn ar Ewrop o fewn ychydig flynyddoedd.

Addasiadau golygu

Radio golygu

Darlledwyd addasiad radio 50 munud o'r stori gan James Hilton a Barbara Burnham ar Raglen Genedlaethol y BBC ym 1936, gyda Richard Goolden yn rhan y teitl a chast a oedd yn cynnwys Norman Shelley, Ronald Simpson, Lewis Shaw a Hermione Hannen.

Darlledwyd addasiad radio gan y Lux Radio Theatre gyda Laurence Olivier ac Edna Best ac a gyflwynwyd gan Cecil B. DeMille ym 1939.

Theatr golygu

Addasodd Barbara Burnham y llyfr ar gyfer cynhyrchiad llwyfan mewn tair act, a berfformiwyd gyntaf yn Theatr Shaftesbury ar 23 Medi 1938, gyda Leslie Banks fel Mr. Chips a Constance Cummings fel ei wraig Katherine. Cafodd rediad o dros 100 berfformiadau hyd 14 Ionawr 1939.

Cafodd sioe gerdd lwyfan yn seiliedig ar y nofel wreiddiol, ond gan ddefnyddio yn bennaf sgôr lleisiol Leslie Bricusse ar gyfer ffilm 1969, ei agor yng Ngŵyl Chichester ar 11 Awst, 1982. Ymhlith y cast roedd John Mills fel Mr. Chips, Colette Gleeson fel Kathie, Nigel Stock fel Max, Michael Sadler a Robert Meadmore mewn rolau wrth gefn, ac 20 o fechgyn ysgol leol.

Ffilm golygu

Ffilm 1939 golygu

Mae'r fersiwn ffilm 1939 yn serennu Robert Donat, Greer Garson, Terry Kilburn, John Mills, a Paul Henreid. Enillodd Donat Wobr yr Academi am yr Actor Gorau am ei berfformiad yn y brif ran, gan guro Clark Gable, James Stewart, Laurence Olivier, a Mickey Rooney. Er nad yw rhai o'r digwyddiadau a ddarlunnir yn yr addasiad yn ymddangos yn y llyfr, mae'r ffilm, ar y cyfan yn driw i'r stori wreiddiol. Ffilmiwyd tu allan adeiladau Ysgol ffuglennol Brookfield yn Ysgol Repton,[5][6] ysgol annibynnol (ar adeg ffilmio, ar gyfer bechgyn yn unig), a leolwyd ym mhentref Repton, yn Swydd Derby. Ffilmiwyd y tu mewn yn Stiwdios Ffilm Denham,[7] ger pentref Denham yn Swydd Buckingham. Arhosodd tua 200 o fechgyn o Ysgol Repton ymlaen yn ystod gwyliau'r ysgol fel y gallent ymddangos yn y ffilm.[8]

Ffilm 1969 golygu

Ym 1969 ymddangosodd fersiwn ffilm gerdd, gyda Peter O'Toole a Petula Clark yn serennu, gyda chaneuon gan Leslie Bricusse a sgôr cefndirol gan John Williams. Yn y fersiwn hon mae cymeriad Katherine wedi'i ehangu'n fawr, ac mae lleoliad amser y stori yn cael ei symud ymlaen sawl degawd. Mae gyrfa Chips yn dechrau ar ddechrau'r 20g a'i yrfa ddiweddarach yn cwmpasu'r Ail Ryfel Byd, yn hytrach na'r Rhyfel Byd Cyntaf. Canmolwyd perfformiadau O'Toole a Clark yn eang. Yn 24ain Gwobrau’r Academi, enwebwyd O’Toole am Wobr yr Actor Gorau, ac enillodd Wobr Golden Globe am yr Actor Gorau mewn Sioe Gerdd neu Gomedi.

Teledu golygu

Ym 1984 fe'i haddaswyd fel cyfres deledu gan y BBC. Roedd yn serennu Roy Marsden a Jill Meager ac yn rhedeg am chwe phennod hanner awr. Ffilmiwyd llawer o olygfeydd yn Ysgol Repton, Swydd Derby, mewn ymdrech i aros yn driw i'r ffilm wreiddiol [9]. Ffilmiwyd golygfeydd eraill yng Ngholeg Crist, Aberhonddu; gyda llawer o ddisgyblion yr ysgol yn cymryd rhan yn y cynhyrchiad.

Cyfres 2002 golygu

Cynhyrchwyd addasiad ffilm deledu gan STV Productions (a elwid wedyn yn "SMG TV Productions") yn 2002. Fe ddarlledwyd ar Rwydwaith ITV. Roedd yn serennu Martin Clunes a Victoria Hamilton gyda Henry Cavill, William Moseley, Oliver Rokison a Harry Lloyd.[10]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Good-Bye, Mr. Chips by James Hilton". Good Reads. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2019.
  2. Bookrags Good-bye, Mr. Chips Summary & Study Guide James Hilton adalwyd 3 Tachwedd 2019
  3. Good-bye, Mr. Chips by James Hilton e-notes study guide adalwyd 3 Tachwedd 2019
  4. Good-bye, Mr. Chips, NOVEL BY HILTON Encyclopædia Britannica[dolen marw] adalwyd 3 Tachwedd 2019
  5. "Movies made in the Midlands". Sunday Mercury. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2019.
  6. "Repton, Derbyshire". Great British Life. greatbritishlife.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-15. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2019.
  7. "Goodbye, Mr. Chips (1939)". IMDb. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2019.
  8. "1930s: A year of tragedy and war worries". youandyesterday.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mawrth 2011. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2019.
  9. "Other programme and film locations". BBC Derby. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2019.
  10. Goodbye, Mr. Chips (2002 TV), IMDb Adalwyd 3 Tachwedd 2019

Dolenni allanol golygu