Project Glass
Prosiect ymchwilio a datblygu (R & D) i greu haen o or-realaeth ar benwisg ydy Project Glass (neu Prosiect Gwydr) gan Google.[1] Bwriedir datblygu nwyddau masnachol wedi'i sefydlu ar y feddalwedd presennol a geir mewn ffôn clyfar ar gyfer pâr o sbectol neu benwisg[2] sy'n golygu y byddai'r dwylo'n rhydd. Cysylltir y penwisg (neu bengyfarpar) â'r we a bydd meicroffon ar y penwisg yn caniatáu rhyngweithio e.e. mapiau, cyfarwyddiadau sut i gyrraedd man arbennig neu wybodaeth am wrthrych wedi'i geo-tagio.[3] Mae'r cyfarpar presennol (Rhagfyr 2012) yn cynnwys stribed o aliminiwm ysgafn gyda 2 pad meddal ar bont y trwyn, meicroffon a chamera.
Y system weithredu a ddefnyddir ydy Android (eto gan Google).[4]
Cyhoeddodd The New York Times y byddai'r penwisg ar werth ar yr un pris a ffôn clyfar tua diwedd 2012.[5] ond mae adroddiadau o ffynonellau eraill yn amau hyn.[6][7][8] Ym Mehefin 2012 cyhoeddwyd na fyddai ar werth i'r cyhoedd tan wanwyn 2014 a hynny am oddeutu $1,500.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Goldman, David (4 Ebrill 2012). "Google unveils 'Project Glass' virtual-reality glasses". Money. CNN.
- ↑ Albanesius, Chloe (4 April 2012). "Google 'Project Glass' Replaces the Smartphone With Glasses". PC Magazine.
- ↑ Newman, Jared (4 Ebrill 2012). "Google's 'Project Glass' Teases Augmented Reality Glasses". PCWorld.
- ↑ Bilton, Nick (23 Chwefror 2012). "Behind the Google Goggles, Virtual Reality". The New York Times.
- ↑ Nick Bilton (21 February 2012). "Google to Sell Heads-Up Display Glasses by Year's End". The New York Times. Cyrchwyd 5 Ebrill 2012.
- ↑ Gannes, Liz. "Google Unveils Project Glass: Wearable Augmented-Reality Glasses". All Things Digital. Cyrchwyd 4 Ebrill 2012.
- ↑ Knight, Jemimah, Think Google Project glass is sci-fi? This developer hacked it together, The Next Web, http://thenextweb.com/shareables/2012/04/10/think-googles-project-glass-is-sci-fi-this-developer-hacked-it-together-with-existing-parts/, adalwyd 10 Ebrill 2012
- ↑ Davies, Chris, DIY Project Glass makes Google’s AR vision real, SlashGear, http://www.slashgear.com/diy-project-glass-makes-googles-ar-vision-real-10222231/
- ↑ Rahn, Cornelius (28 Mehefin 2012). "Google's Brin To Offer Eyeglass Computers To Consumers By 2014". Bloomberg.