Gordyfiant niweidiol o algâu

Algâu sy'n tyfu'n gyflym heb ei reoli un ai mewn dŵr croyw neu amgylcheddau morol yw gordyfiant niweidiol o algâu. Gan fod rhai algâu yn cynhyrchu tocsinau, gallant fod yn niweidiol i bobl, mamaliaid, adar a physgod pan gaiff y tocsinau eu bwyta. Wrth i'r gordyfiant dyfu, mae'n cael gwared â'r ocsigen yn y dŵr ac yn atal goleuni'r haul rhag cyrraedd pysgod a phlanhigion.

Ci yn rhedeg drwy gordyfiant niweidiol o algâu

Gall y gordyfiannau bara o rai diwrnodau hyd at nifer o fisoedd. Ar ôl i'r gordyfiant farw, mae'r microbau sy'n dadelfennu'r algâu marw yn defnyddio hyd yn oed mwy o ocisgen, a all achosi at leihad sylweddol mewn organebau pysgod. Pan fo'r parthau â'r lleihad hwn mewn ocisgen yn gorchuddio ardal fawr am gyfnod hir, cyfeirir atynt fel 'parthau marw' lle nid yw pysgod na phlanhigion yn gallu goroesi.

Ymhlith yr achosion o ordyfiannau niweidiol o algâu mae amodau uchel o ran maetholion, yn bennaf nitradau a ffosfforws a gânt eu achosi gan amaethyddiaeth a diwydiannau eraill. Mae tymheredd dŵr uwch a llai o gylchrediad hefyd yn ffactorau. Gall gordyfiannau niweidiol o algâu achosi niwed sylweddol i anifeiliaid, yr amgylchedd ac economïau. Mae eu meintiau a'u mynychder wedi bod yn cynyddu'n fyd-eang, ffaith y mae nifer o arbenigwyr wedi'i phriodoli i newid hinsawdd byd-eang. Mae Gweinyddiaeth Cefnforol ac Atmosfferig Cenedlaethol yr UDA yn rhagweld rhagor o ordyfiannau niweidiol yn y Cefnfor Tawel.[1]

Disgrifiad a sut i'w adnabod golygu

 
Algâu ar arfordir gogledd yr Almaen

Gall gordyfiannau niweidiol o algâu o algâu glaswyrdd (cyanobacteria) ymddangos ar ffurf ewyn, llysnafedd, neu mat sydd ar arwyneb dŵr, neu ychydig oddi tano. Gall y lliw amrywio yn dibynnu ar eu pigment. Gall algâu glaswyrdd mewn afonydd dŵr croyw neu lynoedd fod yn wyrdd llachar, gyda stribedi ar yr arwyneb sy'n edrych fel paent yn arnofio. At hynny, mae llanwau coch a wnaed o dinoflagellates hefyd yn cynnwys pigmentau ffotosynthetig sy'n amrywio mewn lliw o wyrdd, brown neu goch.

Mae'r mwyafrif o ordyfiannau yn digwydd mewn dyfroedd ffres, morol neu hallt sydd â gormod o faetholion a thymheredd dŵr uwch nar' arfer, sy'n cynyddu cyflymder eu tyfiant.[2] Mae effeithiau niweidiol gordyfiannau o'r fath o achos y tocsinau maent yn eu cynhyrchu neu drwy ddefnyddio'r ocsigen yn y dŵr a all arwain at leihad sylweddol mewn organebau pysgod.[3]

Fodd bynnag, nid yw pob gordyfiant algâu yn niweidiol, ac dim ond newid lliw y dŵr, cynhyrchu arogl annymunol, neu achosi blas drwg i'r dŵr y mae rhai yn gwneud. Yn anffodus, nid oes modd barnu os yw gordyfiant yn niweidiol ai peidio o'i ymddangosiad, gan fod angen samplu ac archwiliad microsgopig.

Mathau golygu

 
Gordyfiant algâu glaswyrdd (Cyanobacteria) ar Lyn Erie yn 2009

Mae tri math o algâu a all ffurfio gordyfiant niweidiol o algâu: cyanobacteria, dinoflagellates a diatoms. Mae'r tri wedi'u gwneud o organebau microsgopig sy'n arnofio a all, fel planhigion, greu eu bwyd eu hunain o oleuni'r haul drwy ffotosynthesis. Mae'r gallu hwnnw yn eu gwneud yn rhan hanfodol o'r gylchred fwydydd ar gyfer pysgod bach ac organebau eraill.[4]:246

Algâu glaswyrdd golygu

Mae gordyfiant algâu niweidiol mewn afonydd a llynoedd dŵr croyw, neu mewn aberoedd, lle mae afonydd yn rhedeg i'r môr, yn cael ei achosi gan algâu glaswyrdd, neu cyanobacteria.[5] Gallant gynhyrchu tocsinau peryglus, megis microcystinaun, niwrotocsin sy'n dinistrio meinwe nerfol mamaliaid. Mewn crynodiadau digon uchel, mae'n bosibl na all ffatrïoedd trin dŵr gael gwared â'r tocsin, a byddant yn cynghori preswylwyr i osgoi yfed dŵr tap, fel a ddigwyddodd yn Toledo, Ohio ym mis Awst 2014.

Maent hefyd yn achosi niwed drwy atal goleuni'r haul neu drwy ddefnyddio'r ocsigen sydd ei angen ar bysgod neu blanhigion, a all arwain at leihad sylweddol mewn organebau pysgod. Pan fo dŵr a chyn lleied ocsigen yn gorchuddio ardal fawr am gyfnod hir, gall ddod yn hypocsig, a elwir yn barth marw.

Llanw coch golygu

 
Llanw coch oddi ar arfordir San Diego, California

Y mathau eraill o algâu yw diatomau a dinoflagellates, sydd yn bennaf mewn amgylcheddau morol, megis arfordiroedd neu faeau, lle gallant hefyd ffurfio gordyfiant algâu, a elwir yn llanw coch. Fodd bynnag, gall llanwau coch, fod yn ffenomenon naturiol,[6] er eu bod yn ffurfio'n agos at arfordiroedd neu arberau. Gallant ddigwydd pan fo tymheredd, halltedd a maetholion dŵr yn cyrraedd lefelau penodol, sy'n ysgogi eu twf. Mae'r mwyafrif o algâu llanw coch yn dinoflagellates.[7] Maent yn weladwy mewn dŵr ar grynodiad o 1,000 o gelloedd algâu y fililitr, ac mewn gordyfiannau dwys gallant fesur dros 200,000 y fililitr.[8]

Mae diatomau yn cynhyrchu asid domoic, niwrotocsin arall a all achosi trawiadau mewn fertebratau uwch ac adar, gan ei fod yn crynodi yn uwch yn y gadwyn fwyd.[9] Mae asig domoic yn casglu yng nghyrff pysgod cregyn, sardinau, a brwyniaid, a all effeithio'r system nerfol ac achosi anaf difrifol neu ladd os cânt eu bwyta gan forlewod, dyfgwn, morfiligion, adar neu bobl. Yn haf 2015, caeoedd llywodraeth y dalaith bysgodfeydd pwysig yn Washington, Oregon a California o achos crynodiadau uchel o asid domoic mewn pysgod cregyn.[10]

Achosion golygu

Ymhlith yr achosion o ordyfiant algâu mae:

  • gwastraff cemegol, maetholion yn bennaf—ffosfforws a nitradau—o wrtaith,[11]
  • newid yn yr hinsawdd ac o'i ganlyniad cynhesu byd-eang
  • llygredd thermol o ffatrïoedd pŵer a ffatrïoedd
  • lefelau dŵr isel mewn dyfrffyrdd a llynoedd mewndirol, sy'n lleihau llif y dŵr ac yn cynyddu tymereddau'r dŵrl.[12][13]

Mae newid yn yr hinsawdd, yn ôl gwyddonwyr NOAA, yn cyfrannu ar ddyfroedd cynhesach sy'n gwneud amodau'n fwy ffatriol ar gyfer twf algâu mewn mwy o ardaloedd ac yn uwch tua'r gogledd.[14] Ystyrir bod cynhesu byd-eang hefyd yn ffactor allweddol ar gyfer gordyfiant algâu yn hemisffêr y De, a gydnabyddir gan wyddonwyr yn Awstralia.[15] Yn gyffredinol, mae dŵr llonydd, cynnes a bas, ynghyd ag amodau uchel mewn maetholion mewn afonydd a llynoedd, yn cynyddu'r risg o gordyfiannau niweidiol o algâu.

Nutrients enter freshwater or marine environments as surface runoff from agricultural pollution and urban runoff from fertilized lawns, golf courses and other landscaped properties; and from sewage treatment plants that lack nutrient control systems.[16] Additional nutirents are introduced from atmospheric pollution.[17] Coastal areas worldwide, especially wetlands and estuaries, coral reefs and swamps, are prone to being overloaded with those nutrients. Most of the large cities along the Mediterranean Sea, for example, discharge all of their sewage into the sea untreated. The same is true for most coastal developing countries.

Effeithiau niweidiol golygu

Wrth i gordyfiannau algâu dyfu, maent yn lleihau lefelau'r ocsigen yn y dŵr ac yn rhwystro goleuni'r haul rhag cyrraedd pysgod a phlanhigion. Gall gordyfiannau o'r fath bara o rai diwrnodau hyd at nifer o fisoedd. Pan fo llai o oleuni, gall planhigion sydd o dan y gordyfiannau farw, a gall y pysgod lwgu. Pan fo'r algâu yn marw o'r diwedd, mae'r microbau sy'n dadelfennu'r algâu marw yn defnyddio mwy fyth o ocsigen, sydd, yn ei dro, yn achosi i'r pysgod farw neu adael yr ardal. Pan fo lefelau ocisgen yn parhau i leihau o achos y gordyfiannau, gall arwain at barthau marw hypocsig, lle na all pysgod na phlanhigion oroesi.[18] Tybir bod y parthau marw hyn yn achos Bae Chesapeake, lle maent yn bodoli yn fel rheol, yn ffynhonnell fawr o fethan.[19]

Iechyd pobl golygu

Bwyd golygu

Argymhellir na ddylid bwyta pysgod neu bysgod cregyn o lynoedd lle mae gordyfiant algâu yn agos. Mae gwenwyn pysgod cregyn paralytig yn y Philipinau yn ystod llanwau coch wedi achosi o leiaf 120 o farwolaethau dros rai degawdau.[20]

Dŵr yfed golygu

 
Darlun lloeren o Lyn Erie yn ystod gordyfiant algâu yn 2011

Yn gyffredinol, rhybuddir pobl i beidio mynd mewn i nac yfed dŵr o ordyfiannau algâu, na chaniatáu eu hanifeiliaid i yfed yn y dŵr, gan fod nifer o anifeiliaid anwes wedi marw o'u hachos. Mewn o leiaf un achos, dechreuodd pobl ddod yn sâl cyn y cyhoeddwyd unrhyw rybuddion.[21]

Mae'n rhai ardaloedd, mae ymwelwyr wedi'u rhybuddio i beidio â chyffwrdd y dŵr hyd yn oed. Dywedwyd wrth longwyr y gellid anadlu'r dŵr o'r gwynt neu donau. Mae traethau, llynoedd ac afonydd wedi'u cau o achos gordyfiannau algâu.[22] Nid yw berwi'r dŵr yn y cartref cyn ei yfed yn cael gwared ar docsinau.

Mae gwyddonwyr ym Mhrydain, sydd wedi gweld cynnydd enfawr mewn algâu tocsig, yn amau y gall yfed dŵr o ffynhonellau sydd ag algâu gwyrddlas gyfrannu tuag at afiechyd Alzheimer’s, Parkinson’s neu Glefyd Lou Gehrig’s. Mae rhai ffatrïoedd trin dŵr yn cynnal profion rheolaidd ar gyfer tocsinau cyanobacterial, fodd bynnag.[23]

Notes golygu

  1. "The Pacific blob caused an ‘unprecedented’ toxic algal bloom — and there’s more to come", Washington Post, Sept. 29, 2016
  2. Harmful Algal Blooms, Center for Disease Control
  3. "What you need to know about toxic algae blooms", USA Today, Awst 7, 2015
  4. Black, Jacquelyn G., and Black, Laura J. Microbiology: Principles and Explorations, 8th Ed., John Wiley & Sons (2012)
  5. Peebles, Ernst B. "Why toxic algae blooms like Florida’s are so dangerous to people and wildlife", Huffington Post, Gorffennaf 20, 2016
  6. FAQs about red tides, Texas Parks & Wildlife Department
  7. Ryan, John.
  8. "Intense, widespread algal blooms reported in Chesapeake Bay", Science Daily, Sept. 1, 2015
  9. "Domoic Acid Toxicity" Archifwyd 2016-06-24 yn y Peiriant Wayback., The Marine Mammal Center
  10. "NOAA Fisheries mobilizes to gauge unprecedented West Coast toxic algal bloom", Northwest Fisheries Science Center, Mehefin 2015
  11. "Climate Change and Harmful Algal Blooms". Washington, D.C.: U.S. Environmental Protection Agency (EPA). 2017-03-09.
  12. "Neurotoxic algae bloom that shuts down Utah Lake can affect brain, liver", KUTV, Gorffennaf 15, 2016
  13. "Russian River to be closely monitored this summer to guard against harmful algae blooms", Press Democrat, Mehefin 23, 2016
  14. "Algal blooms 'likely to flourish as temperatures climb'", Straits Times, Gorffennaf 20, 2016
  15. "The disgusting uptick in the incidence of algae blooms", Washington Post, Awst 1, 2016
  16. "Sources and Solutions". EPA. 2017-03-10.
  17. Miller, G. Tyler Jr., Environmental Science, Thomas Learning (2003) pp. 355–357
  18. "Spreading Dead Zones and Consequences for Marine Ecosystems", Science, Awst 15, 2008
  19. Dietrich, Tamara (2016-07-19). "Study: Chesapeake Bay a bigger methane generator than previously thought". Daily Press. Newport News, VA.
  20. "Lethal paralytic shellfish poisoning from consumption of green mussel broth, Western Samar, Philippines, August 2013", World Health Organization, Issue #2, April–June 2015
  21. "People got sick at Pyramid Lake before the state reported toxic algae bloom.
  22. "Utah County portion of Jordan River closed due to toxic algal bloom" Archifwyd 2016-07-24 yn y Peiriant Wayback., Daily Herald, Gorffennaf 21, 2016
  23. "Drinking water could be poisoned with toxic algae linked to Alzheimer’s", The Telegraph, Feb. 26, 2015