Gorsaf reilffordd Abergele a Phen-sarn
Mae gorsaf reilffordd Abergele a Phen-sarn (Saesneg: Abergele and Pensarn) yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu trefi Abergele a Phen-sarn yn sir Conwy, Cymru. Mae'r orsaf yn gorwedd ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru ac fe'i rheolir gan Trafnidiaeth Cymru.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1 Mai 1848 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Abergele |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.295°N 3.583°W |
Cod OS | SH946787 |
Nifer y platfformau | 2 |
Côd yr orsaf | AGL |
Rheolir gan | Trenau Arriva Cymru |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Agorwyd dan yr enw Abergele gan reilffordd Caer a Chaergybi ar 1 Mai 1848[1], daeth yn rhan o'r London, Midland and Scottish Railway ystod uno rheilffyrdd 1923. Trosglwyddwyd i ranbarth London Midlands Region o'r Rheilffordd Prydeinig ar adeg gwladoli yn 1948.
Pan cyflwynwyd 'Sectorisation', gwasanaethwyd yr orsaf gan Reilffyrdd Rhanbarthol, er i drenau sector Intercity basio drwy'r orsaf ar eu ffordd o Euston Llundain a Chanolbarth Lloegr i Gaergybi.
Wedi preifateiddio'r rheilffyrdd Prydeinig, darparwyd gwasanaethau gan Drenau Arriva Cymru.
- ↑ Butt, R. V. J. (1995). The Directory of Railway Stations: details every public and private passenger station, halt, platform and stopping place, past and present (cyh. 1af). Sparkford: Patrick Stephens Ltd. ISBN 978-1-85260-508-7.