Pensarn

pentref ym mwrdeistref sirol Conwy

Pentref glan môr yng nghymuned Abergele, Bwrdeisdref Sirol Conwy, Cymru, yw Pensarn[1] neu Pen-sarn.[2] Saif ar arfordir gogledd-ddwyrain, rhwng Abergele i'r de-orllewin a Thywyn, Bae Cinmel a'r Rhyl i'r dwyrain. Rhed ffordd yr A549 trwy'r pentref ac mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn mynd trwyddo. Ceir gorsaf reilffordd yno.

Pensarn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.293°N 3.577°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH948785 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map
Gweler hefyd: Pen-sarn (Ardudwy, Gwynedd) a Penysarn (Ynys Môn).

Canolfan gwyliau golygu

Datblygodd Pensarn yn bennaf fel canolfan gwyliau glan môr wrth i boblogrwydd Y Rhyl a'r cyffiniau gynyddu fel cyrchfan twristaidd. Ceir sawl maes carafanau yn y pentref ac mae'r traeth eang, a gyrhaeddir trwy groesi bont dros y rheilffordd, yn dywodlyd. Mae'n boblogaidd iawn gan ymwelwyr yn yr haf.

 
Traeth Pensarn

Hynafiaethau golygu

I'r de-ddwyrain o Bensarn ceir Morfa Rhuddlan, safle brwydr rhwng y Cymry a'r Eingl-Sacsoniaid yn yr Oesoedd Canol Cynnar.

Tywydd a natur golygu

Fe gofir Rhagfyr 2013, am y gwyntoedd mawr a gafodd effaith ar sawl gwlad yng Ngogledd Ewrop, a thrychinebus iawn i sawl teulu. Yn sgil y gwyntoedd o bosib fe gafodd Morfil Asgellog Llwyd ei olchi i’r traeth ym Mhensarn ger Abergele. Cafodd yr awdurdodau wybod am hyn tua hanner awr wedi un ar y 9fed o Ragfyr. Bu'r heddlu a bad achub Llandudno a’r Rhyl yn ceisio ei achub. Erbyn pedwar o’r gloch, ac ar ôl disgwyl am y llanw uchel, bu’r ymdrech yn llwyddiant. Llwyddodd tîm y bad achub a swyddogion y RSPCA i’w wthio’n ôl i ddŵr dyfnach. Braf yw nodi bod yr ymdrech wedi bod yn un lwyddiannus.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 21 Tachwedd 2021
  2. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.